News Centre

Bardd Plant Waterstones ar gyfer 2023, Joseph Coelho, yn ymweld â Llyfrgell Caerffili

Postiwyd ar : 15 Medi 2023

Bardd Plant Waterstones ar gyfer 2023, Joseph Coelho, yn ymweld â Llyfrgell Caerffili
Cafodd Bardd Plant Waterstones ar gyfer 2023, Joseph Coelho, ei groesawu i Lyfrgell Caerffili fel rhan o'i ‘Farathon Llyfrgelloedd’.

Mae'r Marathon Llyfrgelloedd yn golygu bod Joseph yn ymaelodi â llyfrgell ym mhob awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig, gan annog pobl i gofrestru gyda'u llyfrgell leol a thynnu sylw at y rôl hanfodol y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae o ran ysbrydoli pobl ifanc i garu darllen.

Yn ystod ei ymweliad, darllenodd Joseph rai o'i straeon a'i gerddi i ddisgyblion Ysgol Gynradd y Twyn, yna rhoddodd gyfle iddyn nhw ofyn cwestiynau iddo fe am ei rôl fel y Bardd Plant. Fe wnaeth hefyd gofrestru ar gyfer cerdyn llyfrgell Caerffili a benthyca dau lyfr.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Mae'n wych gweld y Bardd Plant yn ysbrydoli pobl ifanc a'u hannog nhw i gofrestru gyda'u llyfrgell leol. Rwy'n gobeithio bod disgyblion Ysgol Gynradd y Twyn wedi cael bore gwych.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau llyfrgelloedd, ewch i: www.caerffili.gov.uk/llyfrgelloedd


Ymholiadau'r Cyfryngau