News Centre

Anrhydeddu sêr-wirfoddolwyr mewn seremoni wobrwyo fawreddog

Postiwyd ar : 25 Medi 2023

Anrhydeddu sêr-wirfoddolwyr mewn seremoni wobrwyo fawreddog
Mae gwirfoddolwyr ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr 2023, yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.
 
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yn trefnu'r seremoni wobrwyo i anrhydeddu gwirfoddolwyr sy'n ymgymryd â gwaith o bob math yn y gymuned leol.
 
Yn ystod y noson, cafodd yr enillwyr eu llongyfarch a chafodd y gwobrau eu cyflwyno iddyn nhw ym mhresenoldeb Arglwydd Raglaw Gwent, yr Uchel Siryf a Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Dyma'r rhestr lawn o'r enillwyr eleni:
 
Gwirfoddolwr Ieuenctid
Enillydd: Ben James
Yn ail: Eva Franklin
Cystadleuwyr teilwng: Megan Parsons a Ruby Porter

Gwirfoddolwr Rhieni a Phlant
Enillydd: Jennifer Jones
Yn ail: Natasha Sadler
 
Gwirfoddolwr Ymddiriedolwyr
Enillydd: Mostyn Davies
Yn ail: Roger Bevan
 
Gwirfoddolwr Cynhwysiant Cymunedol
Enillydd: Nicola Sharlot
Yn ail: Caerphilly People First
 
Gwirfoddolwr Diwylliant a Threftadaeth Cymru
Enillydd: Canolfan Glowyr Caerffili
 
Gwirfoddolwr Chwaraeon
Enillydd: Rhys Griffiths
Yn ail: Kerin Bowen

Gwirfoddolwr Iechyd a Lles
Enillydd: Angela Joignant
Yn ail: Emma Dennel
 
Gwirfoddolwr Amgylcheddol
Enillydd: James Morgan
Yn ail: Michael Brown
 
Gwirfoddolwr Ysbrydoledig
Enillydd: David Morris
Yn ail: Ellie Way
 
Gwobr Ddinesig y Maer
Enillydd: Mark Gibbings
 
Gwobr yr Uchel Siryf
Enillydd: Cheryl Smith
 
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Mae'r gwobrau'n dathlu ysbryd, brwdfrydedd ac ymroddiad diddiwedd ein sector gwirfoddol sy'n ffynnu ac mae'n fraint cael bod yn rhan ohono.
 
"Mae gwirfoddolwyr yn ysbrydoliaeth i ni gyd gan eu bod nhw'n chwarae rhan mor hanfodol yn ein cymdeithas. Mae seremonïau gwobrwyo fel hyn yn ein galluogi ni i wneud ein rhan fach i gydnabod y cyfraniad cadarnhaol maen nhw'n ei wneud i fywydau cymaint o bobl."


Ymholiadau'r Cyfryngau