News Centre

Sara's Kitchen: y busnes lleol sy'n gweini prydau cartref i'w bwyta ar y safle neu fel tecawê

Postiwyd ar : 12 Medi 2023

Sara's Kitchen: y busnes lleol sy'n gweini prydau cartref i'w bwyta ar y safle neu fel tecawê
Gwelodd y fenyw fusnes leol, Sara Ali, gyfle yng nghanol tref Caerffili i ddarparu bwyd cartref o safon. Ar ôl sicrhau safle delfrydol gyda golygfeydd prydferth o'r castell, fe aeth hi ati i greu Sara's Kitchen, a agorodd yn gynharach eleni ar Castle Street.

Gan arbenigo mewn prydau cartref a chacennau blasus, mae'r busnes yn ychwanegiad i'w groesawu i stryd fawr Caerffili. Mae Sara eisoes wedi adeiladu sylfaen ffyddlon o gwsmeriaid sy'n mwynhau ymweld â'r bwyty croesawgar a chyfeillgar hwn.

Mae Sara's Kitchen wedi datblygu nid yn unig i fod yn lleoliad ar gyfer bwyta ar y safle neu decawê, ond mae'r busnes hefyd yn dosbarthu yn yr ardal leol bellach. Mae galw mawr am ei chinio dydd Sul enwog, sydd bellach ar gael ar ddydd Mawrth a dydd Gwener; prydau gwych i'w mwynhau yn yr adeilad hyfryd sydd newydd ei adnewyddu, eu casglu o'r gegin neu eu dosbarthu i'ch drws.

Mae gan Sara flynyddoedd lawer o brofiad ym maes coginio, gwasanaeth cwsmer a rheoli gan ei bod hi wedi rheoli siop, arwain cegin mewn tafarn yng Nghaerffili, yn ogystal â gweithio mewn siop gigydd y teulu ac fel cogydd yn y gorffennol. Mae'r gegin hefyd yn cynnig brecwast drwy gydol y dydd, prydau cartref, te a choffi, a chacennau – i'w bwyta ar y safle neu fel tecawê.

Cafodd Sara's Kitchen grant cychwyn busnes werth £5,000.00 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant hwn ei neilltuo tuag at Sara's Kitchen drwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o gyllid y Gronfa. Mae'r cymorth wedi ei galluogi hi i gyflogi un aelod o staff amser llawn ac un rhan-amser, ac mae wedi darparu arian angenrheidiol i gael offer ychwanegol a helpu talu am adnewyddu'r bwyty.

Dywedodd Sara, “Mae dechrau busnes newydd yn gynhyrfus iawn ac mae angen gwneud llawer o bethau ar unwaith. Roedd yn hawdd gwneud cais am y grant, gyda chymorth gwych gan dîm busnes Cyngor Caerffili. Mae wedi fy helpu gyda'r holl ddarnau ychwanegol o offer heb eu cynllunio, fel fy mod i'n gallu tyfu'r busnes a chynhyrchu bwyd cartref gwych i'n cwsmeriaid ni yng Nghaerffili.”

Fe wnaeth y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, alw heibio i gael golwg a dywedodd, “Roedd yn wych siarad â Sara am ei nodau ar gyfer y busnes a sut mae'r cymorth ariannol gan y Cyngor wedi helpu. Mae'n amgylchedd croesawgar iawn ac mae'n amlwg bod ei chwsmeriaid lleol yn gwerthfawrogi'r hyn mae hi wedi gallu ei gyflawni.”

Mae Sara's Kitchen bellach ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn 9am–3pm, a phrynhawn Sul 12pm–3pm. Boed yn frecwast drwy gydol y dydd, yn brydau cartref, neu ond yn goffi a chacen, mae'r cyfan ar gael yn Sara's Kitchen.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn:

Ar ap VZTA – www.visitcaerphilly.com/cy/mae-caerffili-yn-dref-smart

Facebook

Ffôn: 029 2132 7651

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF.

E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220.


Ymholiadau'r Cyfryngau