Cynlluniau Trawsnewid yn creu argraff ar y Gweinidog.
Postiwyd ar : 29 Medi 2023
Ymwelodd Gweinidog Llywodraeth Leol a Chyllid Llywodraeth Cymru â Thŷ Penallta yr wythnos hon (Iau 28/9) i ddarganfod rhagor am raglen ‘Mobilising Team Caerphilly’.
Ymunodd yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr â Rebecca Evans AS wrth iddi gymryd amser allan o'i hamserlen brysur i ddarganfod sut mae CBSC yn bwriadu gwella a thrawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol.
Cafodd y Gweinidog gyfle i siarad ag arweinwyr y rhaglen a chael dealltwriaeth glir am y themâu a’r cynigion sy’n dod i’r amlwg a fydd yn newid y ffordd y mae’r Cyngor yn gweithredu wrth i ni ailfeddwl ac ail-lunio’r ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau i’r gymuned.
Esboniodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Mae’r neges yn lledaenu am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud yma ar y cyd fel Tîm Caerffili. Mae’r toriadau term real sylweddol i gyllidebau, yr ydyn ni a phob cyngor arall yn eu profi, yn mynnu dull gwahanol. Mae hyn naill ai’n golygu toriadau i wasanaethau, neu arloesi a gwella. Rwy’n hyderus bod y gwaith arloesol a heriol hwn yn mynd i sicrhau newid sylweddol a fydd yn amlwg ac yn gadarnhaol i’n trigolion.
Ac aeth ymlaen i ddweud, “Roedd yn wych cael y cyfle i groesawu’r Gweinidog i Dŷ Penallta i ddarganfod y gwaith anhygoel sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud ei bod yr hyn a welodd hi wedi creu argraff arni ac redden ni’n hapus i arddangos ymroddiad a brwdfrydedd pawb sy’n ymwneud â’r rhaglen drawsnewid uchelgeisiol hon.”