News Centre

Mae'r Swyddfa Dywydd – rhybudd tywydd Melyn ar gyfer gwyntoedd cryfion

Postiwyd ar : 26 Medi 2023

Mae'r Swyddfa Dywydd – rhybudd tywydd Melyn ar gyfer gwyntoedd cryfion

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd Melyn ar gyfer gwyntoedd cryfion o ganol dydd ar ddydd Mercher tan 7am fore Iau.

Storm Agnes fydd yn achosi’r gwyntoedd cryfion ac mae’r Swyddfa Dywydd yn awgrymu y gallwn ni ddisgwyl yr effeithiau canlynol:

  • Mae siawns fach o anafiadau a pherygl i fywyd oherwydd malurion yn cael eu chwythu i bob cyfeiriad
  • Mae rhywfaint o siawns o ddifrod i adeiladau, megis teils wedi'u chwythu oddi ar doeau
  • Mae rhywfaint o siawns y gall toriadau pŵer ddigwydd, gyda'r potensial i effeithio ar wasanaethau eraill, megis signal ffôn symudol
  • Mae amseroedd teithio hirach yn debygol, neu ganslo gwasanaethau ffyrdd, rheilffordd, awyr a fferi. Mae rhai ffyrdd a phontydd yn debygol o gau.
  • Mae siawns fach y gallai anafiadau a pherygl i fywyd ddigwydd o donnau mawr a deunydd traeth yn cael ei daflu ar lan y môr, ffyrdd ac eiddo arfordirol; gyda siawns o fân lifogydd ar ffyrdd yr arfordir.

Yn yr un modd ag arfer, bydd ein timau ymroddedig ar draws ystod o feysydd gwasanaeth wrth law i gynorthwyo'r gymuned a mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy’n cael eu hachosi gan y storm wrth iddyn nhw godi.

Byddwch yn ofalus, yn enwedig os ydych chi’n teithio yn ystod y cyfnod hwn, a chadw llygad ar ragolygon y tywydd am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Rhowch wybod am goed sydd wedi cwympo sy’n rhwystro’r ffordd ar ein gwefan 

Os bydd argyfwng y tu allan i oriau yn ymwneud â gwasanaethau’r Cyngor, ffoniwch 01443 875500.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau