News Centre

Gorchymyn Cau wedi'i roi i eiddo Cyngor Caerffili

Postiwyd ar : 05 Medi 2023

Gorchymyn Cau wedi'i roi i eiddo Cyngor Caerffili
Mae Gorchymyn Cau wedi'i roi i un o eiddo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
 
Roedd yr eiddo wedi dod yn ganolbwynt ymddygiad gwrthgymdeithasol ers cryn dipyn o amser, gan achosi niwsans a gofid i drigolion eraill. Fe wnaeth Adran Gorfodi Tenantiaeth y Cyngor gais llwyddiannus am y Gorchymyn Cau ar ôl i gyngor, ymyriadau a chymorth niferus fethu â chael effaith barhaol.
 
Roedd achosion o gerddoriaeth uchel, iaith ddifrïol, pobl yn casglu yn hwyr yn y nos ac ymddygiad ymosodol yn yr eiddo yn achosi gofid i drigolion eraill.  Cafodd y gwasanaethau brys hefyd eu rhoi dan straen ychwanegol o ganlyniad i gael eu galw i ddelio ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y cyfeiriad.
 
Mae'r Gorchymyn Cau yn golygu, er bod modd i’r preswylwyr presennol aros, nid oes caniatâd i unrhyw ymwelwyr fynd i'r eiddo am gyfnod cychwynnol o 3 mis. Bydd y rheini sy'n mynd i’r eiddo yn mynd yn groes i'r Gorchymyn ac yn agored i gael eu harestio.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Mesurau fel hyn yw’r opsiwn olaf bob amser, ar ôl i'r holl gamau gweithredu rhesymol, angenrheidiol a chymesur gael eu cymryd pan fydd ein deiliaid contract (tenantiaid) yn achosi niwsans a gofid i drigolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol.
 
"Bydd y Gorchymyn Cau yn newyddion i'w groesawu i drigolion lleol sydd wedi dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn yr eiddo hwn."
 
Mae'r Adran Gorfodi Tenantiaeth yn ymdrin ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans sy’n cael eu profi naill ai gan ddeiliaid contract y Cyngor neu o ganlyniad i rywun sy'n byw yn eiddo'r Cyngor. 

Os ydych chi'n profi digwyddiadau parhaus neu ddifrifol o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans gan gymdogion, cysylltwch â'r Adran Gorfodi Tenantiaeth ar 01443 811440 neu drwy e-bostio GorfodiTenantiaeth@caerffili.gov.uk  
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau