News Centre

Sefydliadau Caerffili wedi'u gwahodd i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog

Postiwyd ar : 21 Medi 2023

Sefydliadau Caerffili wedi'u gwahodd i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd sefydliadau lleol i ymuno ag ef i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog.
 
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl bod y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd nhw, yn cael eu trin yn deg. Mae'r Cyfamod yn addewid gwirfoddol.
 
Bydd digwyddiad llofnodi yn cael ei gynnal ar 2 Tachwedd; mae gofyn i sefydliadau sydd â diddordeb anfon e-bost at LluoeddArfog@caerffili.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle.
 
Dywedodd y Cynghorydd Theresa Heron, Hyrwyddwr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog y Cyngor, “Rydyn ni'n annog busnesau a sefydliadau lleol i wneud addewid i gymuned ein lluoedd arfog ni.
 
“Mae llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn dangos ymrwymiad clir i sicrhau nad yw aelodau’r gymuned yn wynebu gwahaniaethu a bydd yn helpu i adeiladu eich enw da fel cyflogwr sy’n gyfeillgar i’r lluoedd.” 


Ymholiadau'r Cyfryngau