Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Casgliad bin wedi'i golli
Prydau ysgolion cynradd
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2023
Ailgylchwr gwastraff bwyd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ennill £500!
News Centre
Ailgylchwr gwastraff bwyd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ennill £500!
Postiwyd ar : 06 Medi 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi £500 i drigolyn arall am ailgylchu gwastraff bwyd fel rhan o ymgyrch y Fwrdeistref Sirol, Gweddillion am Arian.
Mae Mr a Mrs Griffith, o Fedwas, wedi cael eu cyhoeddi'n enillwyr diweddaraf yr ymgyrch, a nhw yw'r pedwerydd enillydd ar ddeg hyd yma.
Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym mis Mawrth 2022, gyda'r nod o gynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd a chyfrannu at dargedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru. Mae'n golygu bod tai yn cael eu monitro, gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis i ennill £500.
Mae holl drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gymwys i ennill y wobr ariannol ar yr amod eu bod nhw'n rhoi eu cadi ailgylchu gwastraff bwyd allan i'w gasglu.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol i bob un o'r 80,000 o gartrefi, lle mae'r gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar gyfer proses o'r enw Treulio Anaerobig, lle mae'n cael ei droi'n ffynhonnell ynni adnewyddadwy.
Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Hoffwn i longyfarch Mr and Mrs Griffith ar ennill a dweud diolch yn fawr i dîm Gwastraff ac Ailgylchu y Cyngor am eu hymrwymiad i'r fenter hon ac i gadw ein Bwrdeistref Sirol yn lân trwy eu gwaith bob dydd.
“Diolch i'r holl drigolion hynny sydd eisoes yn cymryd rhan yn y gwasanaeth casglu wythnosol hwn, ac rydw i'n annog pawb i gymryd rhan a chael cyfle i ennill y wobr ariannol nesaf.”
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i:
www.caerffili.gov.uk/gwastraff-bwyd
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Apêl banc bwyd Nadoligaidd y Cyngor yn dal ar agor am roddion
Dros 9,000 o ymwelwyr yng Nghanol Tref Caerffili ar gyfer Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Caerffili a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni
Hwb cymunedol, Libanus Lifestyle, yn cael cymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu gwasanaethau iechyd a lles yng Nghoed Duon a’r ardaloedd cyfagos
Wedi'i Chanslo - Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni, Bargod
Tîm Cartrefi Gwag Caerffili yn ennill yng Ngwobrau Tai Cymru
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y