News Centre

Neges diogelwch trydanol Cyngor Caerffili i denantiaid

Postiwyd ar : 14 Medi 2023

Neges diogelwch trydanol Cyngor Caerffili i denantiaid
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhoi gwybod i'w denantiaid (deiliaid contract) ei fod yn cynnal rhaglen profi offer trydanol yn nifer o'i dai ar hyn o bryd.
 
Mae'r Cyngor wedi penodi'r contractwyr canlynol i wneud y gwaith: MG Moon Electrical, DJ Decorating, WTH Electrical, Lightning Solutions Ltd, Starlight a Camelot.
 
Dylai tenantiaid wybod bod gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i wneud y gwaith hwn ac mae'r profion yn hanfodol i sicrhau bod yr offer trydanol yn ddiogel iddyn nhw a'u cymdogion. Os bydd tenantiaid yn cael galwad ffôn gan unrhyw un o'r contractwyr hyn, mae gofyn iddyn nhw drefnu apwyntiad a sicrhau eu bod nhw ar gael i roi mynediad i gwblhau'r profion ar y dyddiad cytunedig.
 
Efallai bydd y contractwyr yn cysylltu â thenantiaid y tu allan i oriau gweithio arferol yn y lle cyntaf er mwyn trefnu apwyntiad. Dylai tenantiaid gofio gwirio'r manylion adnabod cyn gadael unrhyw alwyr i mewn i'w cartref.


Ymholiadau'r Cyfryngau