News Centre

Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Caerffili yn cyhoeddi datganiad ar oblygiadau'r argyfwng costau byw

Postiwyd ar : 12 Medi 2023

Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Caerffili yn cyhoeddi datganiad ar oblygiadau'r argyfwng costau byw
Mae'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi cyhoeddi datganiad ar oblygiadau'r argyfwng costau byw a'r cymorth sydd ar gael yn lleol ar gyfer y rhai sy'n profi anawsterau.
 
"Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith wirioneddol ar drigolion Caerffili," meddai'r Cynghorydd Cook. "Mae cyllidebau aelwydydd yn cael eu gwasgu'n barhaus gyda chynnydd mewn costau bob dydd fel bwyd a thanwydd, gan arwain at bobl yn cael trafferth rheoli eu harian a thalu eu morgeisi neu’u rent nhw."
 
"Mae Tîm Cymorth Tai Cyngor Caerffili, sy'n helpu cynorthwyo'r holl drigolion i aros yn eu heiddo nhw, wedi gweld cynnydd mewn atgyfeiriadau o ganlyniad uniongyrchol i'r argyfwng costau byw. Cafodd tua 2,700 o atgyfeiriadau eu gwneud i'r gwasanaeth yn ystod y 5 mis diwethaf; yn nodi cynnydd o 33% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022."
 
Cafodd cyfran fawr o'r atgyfeiriadau hyn (1,385) eu gwneud gan deuluoedd, gyda 327 o'r rhain yn y sector rhentu preifat a’r teuluoedd yn wynebu digartrefedd posibl oherwydd costau cynyddol. Mae'r Tîm Cymorth Tai wedi llwyddo i gynhyrchu incwm ychwanegol o tua £5.8 miliwn i drigolion Caerffili dros y cyfnod 2022-2023 ac wedi helpu cyflenwi dros 900 o dalebau tanwydd gwerth cyfanswm o £44,080 dros fisoedd y gaeaf. 
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Cook, "Mae'n bwysig bod ein trigolion ni'n gwybod bod Tîm Cymorth Tai Cyngor Caerffili yma i'ch helpu a'ch cynorthwyo chi p’un a ydych chi'n berchennog tŷ, yn ddeiliad contract (cyngor, cymdeithas dai neu breifat), yn cysgu allan neu'n syrffio soffas."
 
Gall Dîm Cymorth Tai Cyngor Caerffili helpu gyda'r canlynol:
  • Helpu sefydlu a chynnal cartref – fel dod o hyd i gyfleustodau gwerth gorau a sefydlu cyfrifon debyd uniongyrchol gyda chyflenwyr ynni, cofrestru pobl gyda gwasanaethau iechyd, fel meddygon a deintyddion.
  • Helpu atal troi allan, ôl-ddyledion rhent, ôl-ddyledion treth ystafell wely/treth y cyngor, dirwyon trwydded deledu – trefnu cynlluniau ad-dalu ar gyfer dyledion a chyrchu'r wefan Turn to Us am grantiau.
  • Helpu hawlio budd-daliadau, gwneud y mwyaf o incwm, apeliadau budd-daliadau a cheisiadau am grantiau.
  • Helpu gyda chyllidebu, rheoli arian a rheoli dyledion – gwiriadau incwm a gwariant a chyllidebu, chwilio am opsiynau rhatach ar gyfer pethau fel cyfleustodau a chynlluniau ad-dalu.
  • Cymorth i ddeall Contractau Meddiannaeth a chymorth i fod yn annibynnol wrth gadw eiddo i safon dda.
  • Helpu atal digartrefedd – pecynau cychwynnol cartrefi, grantiau, achub morgeisi a gweithio gyda Shelter Cymru.
 
Gallwch chi wneud atgyfeiriadau at y tîm Cymorth Tai drwy wefan y Cyngor neu drwy decstio HOUSUPPORT i 81400.
 
Dylai unrhyw un sydd angen cyngor neu gymorth tai neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref gysylltu â'r tîm Datrysiadau Tai ar 01443 873552.
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau