News Centre

Cyngor Caerffili yn gofyn i denantiaid roi barn ar eu rhent

Postiwyd ar : 25 Medi 2023

Cyngor Caerffili yn gofyn i denantiaid roi barn ar eu rhent
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal ymgynghoriad helaeth gyda'i denantiaid i ddarganfod beth yw eu barn am eu rhent.

Mae gofyn i denantiaid lenwi arolwg byr i ddweud wrth y Cyngor a ydyn nhw'n credu bod eu rhent yn deg ac yn fforddiadwy. Mae'r Cyngor hefyd eisiau gwybod rhagor am sut mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar ei gwsmeriaid.

Mae'r arolwg ar gael ar-lein; bydd yn dod i ben ddydd Llun 9 Hydref.

Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn raffl lle bydd un person yn ennill £150 ar ffurf talebau siopa a thri pherson arall yn ennill £60.

I unrhyw un sy’n methu llenwi'r arolwg ar-lein neu sydd angen cymorth, mae modd cysylltu â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned drwy ffonio 01443 811433 / 811434 neu  anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau