News Centre

Gofyn i denantiaid Cyngor Caerffili fynegi eu barn ar wasanaethau tai

Postiwyd ar : 10 Hyd 2023

Gofyn i denantiaid Cyngor Caerffili fynegi eu barn ar wasanaethau tai
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i denantiaid roi eu barn ar y gwasanaethau tai y mae'n eu darparu.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar ran y Cyngor gan gwmni annibynnol o'r enw ARP Research Limited. Mae copïau o'r arolwg yn cael eu postio i bob cartref sy'n eiddo i'r Cyngor yn y Fwrdeistref Sirol. Mae tenantiaid hefyd yn gallu llenwi'r arolwg ar-lein; mae rhagor o wybodaeth.

Bydd pawb sy'n llenwi'r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i gael cyfle i ennill hyd at £250 ar ffurf talebau siopa.  Bydd yr arolwg yn dod i ben ddydd Gwener 24 Tachwedd.

Os oes gan denantiaid unrhyw gwestiynau neu bryderon am yr arolwg, mae modd cysylltu â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned drwy ffonio 01443 811433/34 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau