Arolwg Bodlonrwydd Tenantaid 2021

Mae eich barn chi yn bwysig iawn i ni ac mae ein harolwg ni yn 2021 yn gyfle i fynegi eich barn chi ar y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.

Mae'r arolwg hwn bellach wedi cau.

Os oes gan denantiaid unrhyw gwestiynau neu bryderon am yr arolwg, mae modd cysylltu â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned drwy ffonio 01443 864086 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.

Cwestiynau Cyffredin


C. Beth yw'r arolwg?
Mae Cartrefi Caerffili yn cynnal arolwg boddhad tenantiaid ar raddfa fawr yn 2021. Bydd yr arolwg hwn yn cael ei gynnal bob ychydig o flynyddoedd ac mae'n seiliedig ar arolwg safonol gan Lywodraeth Cymru, sy'n cael ei ddefnyddio gan landlordiaid eraill ledled y wlad i fesur boddhad er mwyn cymharu â'i gilydd.

Bydd pob cartref yn cael arolwg papur ddiwedd mis Awst 2021, ac yna holiadur llawn arall ganol mis Medi. Yn ogystal, lle mae Cartrefi Caerffili yn cadw manylion cyswllt, gall tenantiaid hefyd gael gwahoddiadau/nodiadau atgoffa ar gyfer arolwg ar-lein drwy e-bost neu neges destun.

Y dyddiad cau yw 30 Medi.

Bydd e-byst yn dod o ‘Arolwg Tenantiaid Caerffili/Caerphilly Tenant Survey’ (caerphillyhomes@arpsurveys.co.uk).  Bydd unrhyw negeseuon testun y mae ARP Research yn anfon yn uniongyrchol yn dod o 07860 017314.
 
C. Pam ydych chi'n cynnal yr arolwg hwn?
Rydyn ni eisiau gwybod beth yw barn tenantiaid am y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu a byddwn ni'n defnyddio'r canlyniadau i gynllunio gwelliannau i'r gwasanaethau. Byddwn ni'n cynnal yr arolwg bob dwy flynedd ac yn gofyn cwestiynau tebyg fel y gallwn ni hefyd olrhain a ydyn ni'n gwella a gweithredu os nad ydyn ni.
 
C. Sut gallaf i gymryd rhan yn y raffl?
Yn syml, dychwelwch yr holiadur yn yr amlen radbost neu lenwi'r arolwg ar-lein, a bydd eich cod unigryw yn cael ei gynnwys yn y raffl yn awtomatig i ennill talebau siopa gwerth hyd at £250 (bydd yna 6 gwobr i gyd – 1 x £250 a 5 x £50).
 
C. Dydw i ddim eisiau cymryd rhan; tynnwch fy ngwybodaeth oddi ar eich rhestr
Cymerwch enw a chyfeiriad y person a'u hanfon at support@arp-research.co.uk

Bydd unrhyw negeseuon e-bost gan ARP hefyd yn cynnwys dolen i ddad-danysgrifio os nad yw tenantiaid am gael e-byst bellach, a bydd unrhyw negeseuon testun yn gadael i denantiaid ymateb gyda STOP i ddewis peidio â chymryd rhan yn yr arolwg hwn.

C. Oes modd i mi gael holiadur newydd?
Oes. Cymerwch fanylion enw a chyfeiriad y person a'u hanfon at support@arp-research.co.uk.  Fel arall, mae'r arolwg ar gael ar-lein i'w lenwi www.arpsurveys.co.uk/caerphilly.
 
C. Oes modd i mi gael amlen radbost newydd?
Mae'n bosibl anfon yr holiadur yn ôl mewn unrhyw amlen i'r cyfeiriad canlynol:
Freepost RTZK-RGZT-BSKU
ARP Research
PO Box 5928
SHEFFIELD
S35 5DN
 
Os hoffai'r cwsmer gael amlen newydd o hyd, cymerwch fanylion enw a chyfeiriad y person a'u hanfon at support@arp-research.co.uk
 
C. Rwy'n cael trafferth cael mynediad at yr arolwg ar-lein.
Efallai bod rhai preswylwyr wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan drwy e-bost a/neu neges destun. Mae'r rhain yn cynnwys dolen unigryw a fydd yn eu mewngofnodi'n awtomatig i'r arolwg ac yn caniatáu iddyn nhw ailddechrau lle gwnaethon nhw stopio.

Mae help technegol ar gael drwy e-bost i support@arp-research.co.uk neu dros y ffôn ar 0800 020 9564.

Mae'r arolwg ar-lein ar gael i bob tenant yma: www.arpsurveys.co.uk/caerphilly  Rhaid i'r ymatebydd deipio ei god unigryw sydd ar yr holiadur papur a'r llythyr eglurhaol neu gofrestru gyda'i gyfeiriad e-bost, rhif tŷ a chod post.
 
C. Pam ydych chi wedi rhoi fy manylion cyswllt i gwmni arall?
Er mwyn sicrhau bod ein harolwg yn annibynnol, rydyn ni wedi gofyn i ARP Research ei gynnal ar ein rhan ni. Mae ARP yn arbenigo mewn cynnal arolygon fel hyn ar gyfer darparwyr tai ledled y wlad. Dyma’r un peth â phan byddwn ni'n cyflogi contractwyr i wneud gwaith atgyweirio ar ein rhan ni.

Does dim hawl gan ARP defnyddio'ch manylion cyswllt am unrhyw reswm heblaw am weithredu'r arolwg hwn ac maen nhw’n cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a chod ymarfer y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad.

Mae modd hefyd gysylltu â Thîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned Cartrefi Caerffili pe byddai'n well gennych chi siarad ag aelod o'r Tîm Tai sy'n gweithio gydag ARP ar yr arolwg. Mae modd anfon e-bost atyn nhw ar CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk neu ffonio ar 01443 864086
 
C. Sut mae'r arolwg yn gyfrinachol os ydych chi'n gwybod pwy ydw i?
Mae ARP Research yn defnyddio'ch cod unigryw i dynnu'ch cyfeiriad o unrhyw ohebiaeth bellach os ydych chi eisoes wedi anfon eich holiadur chi yn ôl, ac i weithredu'r raffl fawr. Mae unrhyw gysylltiad rhwng eich hunaniaeth a'r atebion a roddwch chi yn cael ei ddileu cyn gynted â phosibl gan ARP, ac ni fydd Cartrefi Caerffili byth yn gweld pwy ydych chi oni bai eich bod chi'n rhoi eich caniatâd penodol chi.
 
C. Faint o arian ydych chi wedi'i wario ar yr arolwg hwn/pam ydych chi'n gwastraffu arian ac ati?
Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwario arian yn ddoeth drwy ddarparu'r gwasanaethau cywir i chi yn y ffordd iawn. Mae'r arolwg hwn yn ein helpu ni i ddarganfod hyn. Rydyn ni'n gofyn i gwmni ymchwil gynnal yr arolwg i sicrhau ei fod yn annibynnol ac yn ddibynadwy.
 
C. Rwyf am wybod manylion penodol am sut mae'r arolwg wedi'i ddylunio neu'n cael ei weithredu neu eisiau siarad ag ARP Research yn uniongyrchol.
Ffoniwch ARP Research ar radffôn 0800 020 9564 neu e-bostio support@arp-research.co.uk