News Centre

Cyfleusterau chwarae newydd Caerffili yn boblogaidd dros ben

Postiwyd ar : 29 Hyd 2021

Cyfleusterau chwarae newydd Caerffili yn boblogaidd dros ben
Mae cyfleusterau chwarae awyr agored newydd yn ardaloedd Bedwas a Thretomos, yng Nghaerffili, eisoes wedi profi'n boblogaidd dros ben gyda phlant a phobl ifanc.

Mae man chwarae'r plant ym Mharc y Bryn wedi cael offer newydd, ynghyd â man chwarae amlddefnydd. Cafodd y cyfleusterau newydd eu hariannu fel rhan o raglen Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru a chyfraniad ychwanegol o £20,000 gan Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen.

Mae'r trigolyn lleol, Michelle Bridges, a'i hefeilliaid, Amber a Faith, eisoes yn gwneud defnydd gwych o'r man chwarae newydd. Dywedodd Michelle, “Rydw i'n credu y bydd y parc yn cael ei ddefnyddio bob dydd gan lawer o bobl. Nid oeddwn i, o leiaf, yn disgwyl iddo fod mor braf; mae'n wych i'r ardal.

“Mae'n wych gweld y parc yn llawn a sut mae'r plant hŷn a'r bobl ifanc yn eu harddegau yn defnyddio'r man chwarae aml-ddefnydd. Mae'n rhoi lle i'r grŵp oedran hwnnw fynd iddo sy'n ddiogel a lle gallan nhw chwarae gyda'u ffrindiau yn lle crwydro'r strydoedd. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o wneud i hyn ddigwydd.”

Cafodd dros £260 miliwn ei fuddsoddi yng nghartrefi tenantiaid a chymunedau lleol fel rhan o raglen y Cyngor i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae'r buddsoddiad hwn wedi cynnwys cyflawni ystod eang o welliannau amgylcheddol ledled y Fwrdeistref Sirol, megis mannau chwarae, parciau sglefrio, tirlunio a mannau parcio ychwanegol.

Yn ddiweddar, cafodd gwaith gwella mannau chwarae ei gwblhau yn: Tŷ Isha Terrace, Cefn Fforest; Heol y Celyn, Tŷ Sign; a Cefn Road, Hengoed.

Ymhlith y mannau chwarae eraill a fydd yn elwa ar uwchraddio offer mae: Pantycelyn Street, Ystrad Mynach; Penylan Road, Argoed, Markham; Attlee Road, Coed Duon; a Pengam Road, Penpedairheol. Bydd man chwarae Hill View, ym Maes-y-cwmwr, yn cynnwys sleid blith-draphlith newydd.

Bydd gan bobl ifanc Graig-y-Rhaca a Britannia lochesi ieuenctid newydd i'w mwynhau, ynghyd ag offer wedi'u huwchraddio ym man chwarae Ffordd yr Angel, Britannia. Mae waliau cicio wedi'u cynllunio ar gyfer: The Avenue, Gilfach; Fairview, Pengam; a Griffiths Street, Ystrad Mynach.

Ychwanegodd y Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai ac aelod ward lleol, “Mae wedi bod yn wych gweld y cyfleusterau hyn yn cael eu defnyddio cystal yn barod. Mae'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud drwy ein rhaglen i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru wir wedi gwneud byd o wahaniaeth i gynifer o gymunedau.

“Yn yr achos hwn, roedden ni'n gallu gwneud gwelliannau gyda chyllid ychwanegol gan Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen i greu mannau diogel sy'n gallu cael eu mwynhau gan bobl o bob oedran.”


Ymholiadau'r Cyfryngau