News Centre

Tîm Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ennill Gwobr Arloesi LACA Rhanbarth Cymru

Postiwyd ar : 24 Tach 2023

Tîm Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ennill Gwobr Arloesi LACA Rhanbarth Cymru
Mae Tîm Arlwyo Caerffili wedi ennill Gwobr Arloesi LACA Rhanbarth Cymru yn ddiweddar yn Seremoni Wobrwyo Cydnabod Rhagoriaeth LACA Cymru.

Mae’r Wobr Arloesi yn cydnabod syniadau arloesol a datblygiad cynhyrchion y tîm ym maes arlwyo addysg dros y pedair blynedd diwethaf. Mae’r syniadau hyn yn cynnwys gweithredu’r cynllun Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn gynnar, cynnal Pencampwriaeth Coginio yn y gymuned, a chyflwyno talebau cod QR ar gyfer taliadau prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol a grantiau hanfodion ysgol ac ati.

Ochr yn ochr â’r Wobr Arloesi, cafodd Gwobr Bwyd mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru ei dyfarnu i’r tîm hefyd, sy’n cydnabod cyfraniad y tîm i addysg yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Llongyfarchiadau i Dîm Arlwyo Caerffili ar eu cyflawniadau. Mae hon yn wobr haeddiannol sy’n cydnabod y gwaith caled sy’n cael ei wneud i ddarparu’r gwasanaeth arlwyo’n llwyddiannus ledled y Fwrdeistref Sirol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau