News Centre

Sialens Ddarllen yr Haf lwyddiannus arall i Fwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 02 Tach 2023

Sialens Ddarllen yr Haf lwyddiannus arall i Fwrdeistref Sirol Caerffili

Cafodd Sialens Ddarllen yr Haf ei chynnal ym mhob llyfrgell ym Mwrdeistref Sirol Caerffili rhwng 8 Gorffennaf a 9 Medi 2023 ac eleni y thema oedd Ar eich Marciau, Darllenwch!
 
Mae’r sialens ddarllen boblogaidd, sy'n cael ei threfnu gan yr Asiantaeth Ddarllen, yn annog darllen er pleser dros wyliau’r haf, gan feithrin sgiliau darllen a hyder a helpu atal y ‘gostyngiad’ mewn sgiliau darllen pan mae plant y tu allan i’r ysgol. Mae'n rhad ac am ddim i gymryd rhan. Eleni, fe gofrestrodd 2,155 o blant i gymryd rhan yn y Sialens ac fe gwblhaodd 1,231 ohonyn nhw'r Sialens yn Llyfrgelloedd Caerffili.
 
Cafodd y plant wobrau bach am gymryd rhan yn y Sialens Ddarllen ac fe wnaeth y plant a gwblhaodd y sialens trwy ddarllen 6 llyfr ennill medal a thystysgrif 'Ar eich Marciau, Darllenwch'.
 
Fe wnaeth y llyfrgelloedd i gyd gynnal raffl i’r holl blant a gwblhaodd Sialens Ddarllen yr Haf, ac rydyn ni hefyd wedi dewis enillydd y Wobr Fawr ar hap o blith yr holl blant sydd wedi cwblhau’r Sialens. Enillydd y Wobr Fawr oedd Louisa Jones, 5 oed, o Lyfrgell Caerffili.
 
Cafodd holl enillwyr Sialens Ddarllen yr Haf eu gwahodd i gyflwyniad gyda'r Maer, y Cynghorydd Michael Adams, yn Siambr y Cyngor yn Nhŷ Penallta am 10am ddydd Sadwrn 21 Hydref. Cafodd y gwasanaeth hwn hefyd ei fynychu gan y Cynghorydd Carol Andrews a Sue Richards, Pennaeth Cynllunio a Strategaeth Addysg, a sawl aelod o staff y llyfrgell. 
 
Eleni, roedd gan bedair llyfrgell saith o bobl ifanc yn gwirfoddoli fel Llysgenhadon Darllen, a oedd yn gweithio yn y llyfrgelloedd hynny i annog plant i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf. Bu’r gwirfoddolwyr yn gymorth enfawr i staff y llyfrgell, ac fe gawson nhw eu gwahodd i’r seremoni gyflwyno a chael tocyn llyfr i ddiolch iddyn nhw am eu cymorth.
 
Roedd y cyflwyniad yn ddathliad hyfryd o ymroddiad y plant i ddarllen yn ystod yr haf.



Ymholiadau'r Cyfryngau