News Centre

Cyngor Caerffili wedi cwblhau cyflwyno contractau tai newydd

Postiwyd ar : 10 Mai 2023

Cyngor Caerffili wedi cwblhau cyflwyno contractau tai newydd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach wedi anfon contractau meddiannaeth at bawb sydd wedi cadw eu tenantiaeth gyda Cartrefi Caerffili cyn gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ar 1 Rhagfyr 2022.

Mae gofyn i ddeiliaid contract y Cyngor sydd ddim wedi cael eu contract, neu a fyddai'n ffafrio'r ddogfen mewn iaith neu fformat gwahanol, gysylltu â'u swyddfa tai leol ar 01443 873535 neu e-bostio RhentuCartrefi@caerffili.gov.uk. Mae modd iddyn nhw hefyd anfon neges destun gyda'r gair ‘contract’ at 07919 627530 a bydd y Cyngor yn dychwelyd yr alwad. 


Ymholiadau'r Cyfryngau