News Centre

Cyngor Caerffili yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau ar draws y Fwrdeistref i greu gwasanaeth meddygon teulu gwell i bobl ddigartref

Postiwyd ar : 24 Mai 2021

Cyngor Caerffili yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau ar draws y Fwrdeistref i greu gwasanaeth meddygon teulu gwell i bobl ddigartref
Ers mis Gorffennaf 2020, mae'r tîm Cefnogi Pobl yng Nghyngor Caerffili wedi gweithio mewn partneriaeth â Meddygfa Teulu Oakfield ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Gwasanaeth Cymorth Cornerstone i sefydlu gwasanaeth meddygon teulu gwell ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer unigolion digartref.

Mae Cornerstone a POBL wedi’u comisiynu gan dîm Cefnogi Pobl Cyngor Caerffili sy'n rheoli Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru.

O ganlyniad i'r gwaith a wnaed trwy'r bartneriaeth hon, cychwynnodd gwasanaeth meddygon teulu gwell ym meddygfa teulu Oakfield Street yn Ystrad Mynach ym mis Medi'r llynedd. 

Mae'r gwasanaeth wedi tynnu sylw at anghenion cymhleth cleientiaid digartref, sy'n agored i niwed sy'n byw yng Nghaerffili.

Fel rhan o'r gwasanaeth, bydd clinig cofrestru cleifion newydd yn cael ei chynnal unwaith yr wythnos, mae'r gwasanaeth wedi’i reoli gan Rebecca Bullingham, Uwch Ymarferydd Nyrsio. Mae'n hawdd trefnu apwyntiadau trwy alwad ffôn neu e-bost. Mae Cornerstone yn gweithio'n galed i annog pobl sy'n cysgu allan i ymgysylltu â'r gwasanaeth hwn ac os oes angen, byddant yn mynd gyda'r person sy'n cysgu allan a hyd yn oed yn cynnig cludiant er mwyn cael gwared ar unrhyw rwystrau rhag cyrchu'r gwasanaeth pwysig hwn.

Mae'r apwyntiad cychwynnol yn cynnwys asesiad iechyd cyffredinol llawn, yn ymdrin â feirysau a gludir yn y gwaed, anghenion iechyd meddwl, iechyd cyffredinol gan gynnwys traed, croen, unrhyw faterion difrifol e.e. haint, niwmonia, yfed alcohol/cymryd sylweddau a chymorth.

Ar ôl cofrestru, bydd y feddygfa'n gwarantu apwyntiad ar gyfer anghenion iechyd brys ar yr un diwrnod.
Dywedodd Andrew Clarke, Prif Weithredwr Cornerstone: “Mae hwn yn wasanaeth arloesol a’r cyntaf ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.  Yn Cornerstone, rydyn ni wir am dorri'r cysylltiad rhwng afiechyd a digartrefedd - rydyn ni'n gweithio mewn ffordd arloesol gyda Chefnogi Pobl Cyngor Caerffili a phartneriaid eraill i ddiwallu anghenion unigolion digartref, ac mae'r Grant Cymorth Tai yn caniatáu i ni wneud hyn.”

Ychwanegodd Rebecca Bullingham, Nyrs Gyffredinol Gofrestredig, MSc, Uwch Ymarferydd Nyrsio ym Meddygfa Oakfield: “Fel meddygfa, fe wnaethom ni sefydlu gwasanaeth iechyd gwell ar gyfer cleifion digartref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i fynd i’r afael ag angen nad oedd wedi ei ddiwallu a nodwyd gan y tîm Cefnogi Pobl.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Cafodd y gwasanaeth hwn ei osod gyda'r nod o alluogi mynediad hawdd a theg i Wasanaethau Meddygol Cyffredinol i rai o drigolion mwyaf agored i niwed y Fwrdeistref. Mae pob un o'n cleifion digartref cofrestredig wedi cael cynnig brechlyn COVID-19 ac oherwydd amserlenni cyflym, rydyn ni’n gallu cynnig yr ail ddos i'r grŵp hwn o gleifion.”

Meddai'r Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet dros Gartrefi ac Eiddo: “Hoffwn i ddiolch i bawb a fu’n rhan o’i ddatblygiad, gan gynnwys ein tîm Cefnogi Pobl, meddygfa Oakfield Street a Cornerstone.   Hoffwn hefyd ddiolch i Grŵp Pobl sydd, ers mis Tachwedd 2020, hefyd wedi bod yn cynnig sesiynau galw heibio wythnosol gyda Gweithiwr Cymorth Tai.”

Os ydych chi'n cael trafferth cadw'ch cartref, mewn perygl o golli'ch swydd neu angen help gyda'ch cyllid, cysylltwch â'r tîm Cefnogi Pobl ar 01443 864548, cefnogipobl@caerffili.gov.uk, neu ewch i https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Housing/Supporting-People-housing-related-support?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau