News Centre

Caerffili yn dathlu Gofalyddion Maeth

Postiwyd ar : 19 Mai 2021

Caerffili yn dathlu Gofalyddion Maeth
Dros yr wythnos ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn dathlu Pythefnos Gofal Maeth gydag ymgyrch digidol i gydnabod y gymuned anhygoel o Ofalyddion Maeth sy'n cefnogi ein trigolion sydd mwyaf agored i niwed.
 
Yn ogystal â'r ymgyrch digidol sydd wedi'i lansio ar gyfryngau cymdeithasol, aeth staff Maethu Caerffili allan i'r strydoedd i syfrdanu gofalyddion gyda thuswau o flodau. Hefyd, maen nhw wedi lansio'u Teithiau Cerdded Lles, a braf neu beidio, maen nhw wedi trefnu ac arwain teithiau cerdded mewn grŵp mewn lleoliadau prydferth ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys Coedwig Cwmcarn, Parc Cwm Darran ac o amgylch Castell Caerffili.
 
Canolbwynt yr ymgyrch Pythefnos Gofal Maeth eleni yw Pam Rydym yn Gofalu, gyda chanolbwynt penodol ar ddynion sy'n gofalu. Mae'r thema hon yn ein helpu ni i godi ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth sydd gennym ni yn ein rhwydwaith gofalu, sy'n parhau i esblygu a thyfu. Gyda'r thema mewn golwg, ymunodd awdurdodau lleol yng Ngwent i gynnal Taith Gerdded Lles Dynion sy'n Gofalu ranbarthol ym Mharc Pont-y-pŵl, yn Nhorfaen. Roedd cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol yn bresennol ar gyfer y daith gerdded ddydd Sadwrn 15 Mai.
 
Hefyd, mae Celtic Manor Resort wedi cefnogi'r ymgyrch, trwy gynnig dwy rownd o golff am ddim i ofalyddion maeth awdurdodau lleol Gwent, lle cafodd gofalyddion ledled Gwent y cyfle i ymlacio a rhwydweithio gyda gofalyddion eraill.
 
Bydd diweddglo'r ymgyrch yn gweld Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn ymuno ag adeiladau eraill ledled Cymru i gael ei oleuo'n oren i gefnogi pythefnos Gofal Maeth, fel arwydd o'n diolch i'r unigolion arbennig hyn a'u teuluoedd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Ofal Maeth, "Mae'r Tîm Gofal Maeth yn gweithio'n ddi-baid i gefnogi gofalyddion a phlant ac yn gweithio'n rhagweithiol i dyfu'r tîm er mwyn sicrhau bod digon o ofalyddion yn yr awdurdod lleol i wneud yn siŵr bod plant yn gallu aros yn y gymuned leol sy'n gyfarwydd iddyn nhw. Rwy'n falch iawn o bopeth maen nhw'n ceisio cyflawni ac mae'r tîm yn parhau i fynd o nerth i nerth.”
 
Ychwanegodd, "Rydyn ni eisoes wedi croesawu 11 o ofalyddion newydd eleni ac rydyn ni'n parhau i wella'r pecynnau hyfforddiant a chymorth rydyn ni'n eu cynnig i'r rhai sy'n dod yn rhan o'n rhwydwaith gofal. Rwyf am estyn diolch enfawr i bawb yn y Tîm Maethu a'r gofalyddion."
 
I glywed ein Gofalyddion yn siarad am pam maen nhw'n gofalu, ewch i'n sianel YouTube - https://www.youtube.com/playlist?list=PLgsmIGQ31scNi_S8mD40shXwQe5DLbAFp
 
Am ragor o wybodaeth ynghylch Maethu, ewch i www.fostercaerphilly.co.uk/cy


Ymholiadau'r Cyfryngau