News Centre

Disgyblion Ysgol Cae'r Drindod wedi dringo i gopa Pen y Fan er budd elusen

Postiwyd ar : 26 Meh 2023

Disgyblion Ysgol Cae'r Drindod wedi dringo i gopa Pen y Fan er budd elusen
Yn ddiweddar, cymerodd 8 disgybl Ysgol Cae'r Drindod ran mewn taith gerdded i gopa Pen y Fan er mwyn codi arian er budd elusen o'r enw Bigmoose, fel rhan o'u gwaith gwirfoddol Gwobr Dug Caeredin.
 
Elusen o Gaerdydd yw Bigmoose, sydd â nod clir o adael y byd mewn cyflwr gwell. Eu ffocws nhw yw helpu'r rhai sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, helpu atal hunanladdiad a helpu atal digartrefedd.
 
Ar ddiwrnod y daith, cafodd y grŵp ei gynorthwyo gan Richard Batten, arweinydd mynydd o Grŵp Antur Caerffili, ac aelodau eraill o staff yr ysgol.
 
Hyd yn hyn, mae'r grŵp wedi codi dros £1,200 gyda rhoddion yn parhau i ddod i mewn.
 
Meddai Ian Elliott MBE, Pennaeth Ysgol Cae'r Drindod, “Nid yw dweud fy mod i'n falch yn dod yn agos ati! Am gyflawniad, dringo i gopa Pen y Fan a dod yn ôl lawr yn ddiogel mewn 3.5 awr; a chodi dros £1,200 er budd Bigmoose wrth wneud hynny!
 
“Roedd y daith gerdded yn rhan o'n Gwobr Dug Caeredin, sy'n galluogi disgyblion i gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd dysgu a chyfleoedd cymdeithasol cyffrous. Rydw i mor falch o'n disgyblion, a'r staff a wnaeth eu cynorthwyo nhw. Rydych chi wir wedi ‘estyn am y sêr’ a rhagori ar ein holl ddisgwyliadau.”
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Am gyflawniad anhygoel i bawb dan sylw. Mae eich dyfalbarhad a'ch ymroddiad i godi arian at achos teilwng yn benigamp. Da iawn i bawb, dylech chi i gyd fod yn hynod falch ohonoch chi'ch hunain.”
 
Os hoffech chi roi arian, ewch i dudalen JustGiving Ysgol Cae'r Drindod: https://t.co/j7jrQOTlOI


Ymholiadau'r Cyfryngau