News Centre

Ystafell Ffitrwydd Newydd yng Nghanolfan Hamdden Heolddu

Postiwyd ar : 27 Meh 2023

Ystafell Ffitrwydd Newydd yng Nghanolfan Hamdden Heolddu
Mae'r Ystafell Ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Heolddu wedi cael cyllid o £100,000 i ailwampio ac adnewyddu'r man presennol.
 
Mae gan yr ystafell ffitrwydd newydd, a gafodd ei hagor ddydd Llun 19 Mehefin, olwg newydd ffres, offer newydd sbon a threfn well ar y gampfa. Mae amrywiaeth o offer cardio newydd, gan gynnwys peiriannau rhwyfo, beiciau awyr a pheiriannau sgïo yn ogystal â pheiriannau gwrthiant newydd a phwysau rhydd, wedi creu cyfleuster o'r radd flaenaf.
 
Bydd y cyfleusterau newydd o fudd i fyfyrwyr Ysgol Gyfun Heolddu, y gymuned leol ac aelodau newydd a phresennol Dull Byw Hamdden. Mae Canolfan Hamdden Heolddu hefyd yn gartref i bwll nofio 25 metr, ystafell iechyd a rhaglen dosbarthiadau sych ac yn y dŵr. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae'r buddsoddiad gwych yng Nghanolfan Hamdden Heolddu yn darparu'r cyfleusterau gorau a rhagor o gyfleoedd i ysbrydoli myfyrwyr a'r gymuned i gymryd rhan mewn chwaraeon a ffitrwydd. Mae’r cyllid ar gyfer yr ystafell ffitrwydd newydd wedi darparu ased gwerthfawr i’r gymuned leol ac rwy’n siŵr y bydd hi’n cael ei defnyddio’n aml a’i mwynhau gan bawb”.
 
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau chwaraeon a hamdden egnïol sydd ar gael, ewch i: www.caerphillyleisurelifestyle.co.uk

 


Ymholiadau'r Cyfryngau