News Centre

Talebau prydau ysgol am ddim - diweddariad

Postiwyd ar : 29 Meh 2023

Talebau prydau ysgol am ddim - diweddariad

Annwyl Rieni/Ofalwyr

Gobeithiwn eich bod chi’n cadw’n dda. Rydyn ni’n ysgrifennu atoch chi i roi gwybod i chi am ddiweddariad pwysig ynghylch darpariaeth y talebau prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf.

Fel y gwyddoch chi, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y ddarpariaeth gwyliau’r ysgol ar gyfer prydau ysgol am ddim fel mesur dros dro mewn ymateb i bandemig COVID-19, gyda'r nod o gynorthwyo teuluoedd mewn angen yn ystod y cyfnod heriol hwn. Fodd bynnag, mae'n ddrwg gennym ni roi gwybod i chi bod Llywodraeth Cymru, heddiw, wedi penderfynu tynnu cyllid yn ôl ar gyfer y cynllun talebau prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf a thu hwnt.

O ganlyniad i'r penderfyniad hwn, fydd Cyngor Caerffili ddim yn gallu darparu talebau prydau ysgol am ddim fel yn ystod gwyliau’r haf blaenorol.

Rydyn ni’n deall y bydd y newyddion hyn yn dod mor agos at wyliau'r haf yn siomedig iawn i lawer o deuluoedd sydd wedi elwa o'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim mewn cyfnodau gwyliau blaenorol.
Er nad oes modd i ni wneud unrhyw beth ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru, hoffai'r Cyngor dynnu sylw at ystod o opsiynau amgen i helpu i gynorthwyo teuluoedd y mae'r penderfyniad hwn yn effeithio arnyn nhw.

Maen nhw’n cynnwys:

Cynlluniau Cymorth y Llywodraeth: Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cynlluniau cymorth amrywiol, gan gynnwys budd-daliadau lles fel Credyd Cynhwysol, a all ddarparu cymorth ariannol i deuluoedd mewn angen. Mae rhagor o wybodaeth yma https://www.llyw.cymru/help-gyda-chostau-byw  

Cymorth Byw CBS Caerffili: Rydyn ni wedi datblygu 'siop un stop' ar wefan Cyngor Caerffili lle mae modd dod o hyd i lawer o fesurau cymorth costau byw mewn un lle – www.caerffili.gov.uk/cymorth-costau-byw

Banciau Bwyd Lleol: Mae banciau bwyd lleol ar gael i ddarparu eitemau bwyd hanfodol a chymorth i deuluoedd sy'n profi caledi ariannol. Mae modd iddyn nhw eich cynorthwyo chi i gael mynediad at y darpariaethau angenrheidiol yn ystod gwyliau'r haf. Rydyn ni wedi llunio rhestr o fanciau bwyd lleol a'u horiau gweithredu, ac mae modd dod o hyd iddi ar wefan Cyngor Caerffili (https://www.caerffili.gov.uk/services/cost-of-living-support/get-help-paying-for-food?lang=cy-gb)

Rydyn ni’n deall y gallai'r newid hwn arwain at ymholiadau a phryderon ychwanegol. Gallwch chi fod yn sicr bod ein tîm Gofalu am Gaerffili yma i'ch cynorthwyo chi a'ch tywys chi drwy'r heriau hyn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi i gael mynediad at adnoddau eraill, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'r tîm.

Dros y ffôn: 01443 811490 | E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk

Mae tîm Gofalu am Gaerffili ar gael yn ystod oriau swyddfa. Dydd Llun i ddydd Iau (8.30am-5pm) a dydd Gwener. (8.30am-4.30pm)

Diolch am eich cydweithrediad a'ch amynedd parhaus.

Yn gywir

Richard Edmunds 

Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol



Ymholiadau'r Cyfryngau