News Centre

Caerffili yn dathlu ein Dysgwyr sy'n Oedolion a thiwtoriaid yng Ngwobrau Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwent

Postiwyd ar : 27 Meh 2023

Caerffili yn dathlu ein Dysgwyr sy'n Oedolion a thiwtoriaid yng Ngwobrau Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwent
Bob blwyddyn, mae Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwent yn cynnal seremoni gwobrwyo i ddathlu cyflawniadau'r gwasanaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ledled Gwent ac i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad y dysgwyr a'r tiwtoriaid.

Cafodd digwyddiad eleni ei gynnal yng Nghlwb Golff Bryn Meadows ac yn bresennol roedd staff gweithredu Dysgu Oedolion yn y Gymuned; Pennaeth Gwasanaeth – Sue Richards; Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol – Richard Edmunds; a'r Cynghorydd Carol Andrews a gyflwynodd y gwobrau i enillwyr haeddiannol Caerffili.

Cafodd y wobr Tiwtor y Flwyddyn, Caerffili, ei rhoi i Peter Steer sy'n dysgu amrywiaeth o ddosbarthiadau gan gynnwys Sgiliau Digidol a'ri Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ryngwladol (ICDL). Fe yw Mentor Digidol Caerffili. Fel rhan o'i swydd, mae'n cynnig cymorth a hyfforddiant parhaus i diwtoriaid, gwirfoddolwyr ac i staff eraill y ganolfan. Caiff Peter ei ddisgrifio fel aelod uchel ei barch o'r tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned, a dyma farn sy'n cael ei rhannu gan ei ddysgwyr, cyd-weithwyr, a phartneriaid eraill.

Enillodd The Pottery Club y wobr Grŵp, Caerffili. Mae'r clwb wedi bod yn rhan fawr o Dŷ Rhydychen am o leiaf 15 mlynedd. Mae'r grŵp hwn yn canolbwyntio ar y gymuned ac mae'r hyn sy'n digwydd yn Nhŷ Rhydychen yn bwysig iawn iddyn nhw. Caiff y grŵp ei ddisgrifio fel un sy'n annog ei gilydd ac maen nhw'n rhoi llawer o ganmoliaeth am waith ei gilydd a bob amser yn gymwynasgar ac yn gefnogol.

Aeth y wobr Dysgwyr y Flwyddyn, Caerffili, i Cathy Vlahos a Jenny Sibley. Mae gan Cathy fân anableddau dysgu ac mae hi wedi bod yn mynychu Tŷ Rhydychen am nifer o flynyddoedd. Mae Cathy'n gweithio'n galed iawn, yn andros o greadigol ac yn artist cynhyrchiol, gyda nifer o'i chelfweithiau yn hongian ar waliau'r coleg cymunedol.

Mae Jenny bob amser yn siriol, cyfeillgar, ac yn awyddus i ddysgu. Mae hi bob amser yn dod i'r dosbarth gydag agwedd wych ac yn gwneud i bawb yn y dosbarth deimlo'n gartrefol a theimlo bod croeso iddyn nhw. Er gwaethaf ei heriau ei hun, mae Jenny'n cynorthwyo myfyriwr arall, sef ei ffrind, Myra. Gwraig hŷn yw Myra, sydd hefyd ag anableddau dysgu ac yn cael trafferth yn cyfathrebu. Ni all Myra ddarllen nac ysgrifennu, ac mae Jenny yno bob amser i'w helpu a'i hannog hi.

Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, a fynychodd y digwyddiad a chyd-gyflwyno'r gwobrau, “Cefais i amser bendigedig yng Ngwobrau Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwent. Roedd hi'n noson hyfryd yn dathlu cyflawniadau canolfannau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ledled Gwent. Rydw i mor falch o'n henillwyr a phob un o'n dysgwyr a thiwtoriaid yn y gymuned a'u hymroddiad i ddysgu gydol oes!”

I gael gwybod rhagor am yr amrywiaeth o gyrsiau, ewch i'r dudalen Dysgu Oedolion yn y Gymuned.


Ymholiadau'r Cyfryngau