News Centre

Disgyblion Coed Duon yn rhagori mewn her entrepreneuraidd

Postiwyd ar : 30 Meh 2023

Disgyblion Coed Duon yn rhagori mewn her entrepreneuraidd
Mae disgyblion o Ysgol Gyfun Coed Duon wedi rhagori mewn cystadleuaeth flynyddol a oedd yn gofyn iddyn nhw osod eu sgiliau busnes yn erbyn ysgolion eraill yng Nghymru.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal gan Menter yr Ifanc, sef elusen genedlaethol sydd wedi bod yn gweithredu am dros 60 o flynyddoedd i leihau diweithdra ymhlith yr ieuenctid a helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial, drwy roi iddyn nhw'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo yn y byd gwaith newidiol.

Cipiodd prosiect ‘BLK Clips’ Ysgol Gyfun Coed Duon sawl categori yng Ngwobrau Rhaglenni Cwmni a Thîm y Flwyddyn Cymru, Menter yr Ifanc, gan gynnwys ‘Cwmni Gorau'r Flwyddyn – ail wobr’, ‘Creadigrwydd ac Arloesedd’ a ‘Mwyaf Priodol ar gyfer Allforio’.

Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i fyfyrwyri sefydlu eu menter eu hunain a gwneud pob penderfyniad busnes – gan gynnwys enw'r cwmni a'r cynnyrch, rheoli cyllid a gwerthu i'r cyhoedd mewn ffeiriau masnach.

Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Mae'r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych ac unigryw i entrepreneuriaid newydd gael profiad uniongyrchol o redeg busnes. Hoffwn i ganmol yr holl ddisgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth a llongyfarch y tîm o Ysgol Gyfun Coed Duon ar eu llwyddiant yn y gwobrau mawreddog hyn.”

Ychwanegodd Jane Wilkie, Pennaeth Ysgol Gyfun Coed Duon, “Rydyn ni'n hynod falch o'n disgyblion ni a'u cyflawniad gwych. Fe wnaethon nhw weithio'n galed iawn i gyflawni'r llwyddiant hwn, gan roi llawer o'u hamser eu hunain i ddatblygu eu cwmni a'i gynnyrch.
 
“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn i’n staff, Mrs Cole a Ms Plumley, am eu cynorthwyo nhw yn ystod y broses.”
 
I ddysgu rhagor am Fenter yr Ifanc, ewch i: Young Enterprise | Leading UK Charity | Empowering Young People (young-enterprise.org.uk)

 


Ymholiadau'r Cyfryngau