Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Ras Ffordd 10 Cilomedr Caerffili
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mehefin 2022
Preswylwyr yn mwynhau cartrefi newydd yng Nghaerffili
News Centre
Preswylwyr yn mwynhau cartrefi newydd yng Nghaerffili
Postiwyd ar : 01 Meh 2022
Mae preswylwyr wedi symud i gartrefi ynni effeithlon newydd a gafodd eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Gynradd Cwm Ifor ym Mhen-yr-heol, Caerffili.
Mae'r 19 cartref i gyd wedi'u hadeiladu i safon PassivHaus, sy'n golygu eu bod nhw'n defnyddio deunydd inswleiddio perfformiad uchel i wneud adeilad yn gwbl rydd o ddrafftiau, gan stopio gwres rhag cael ei golli i greu cartrefi ag effaith amgylcheddol isel iawn.
Gweithiodd United Welsh mewn partneriaeth â’r contractwr, Kingfisher Developments Ltd, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i adeiladu’r datblygiad, a dderbyniodd fuddsoddiad gan Gronfa Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Lynn Morgan, Cyfarwyddwr Datblygu ac Adfywio United Welsh, “Rydw i’n falch iawn o weld preswylwyr yn symud i’r cartrefi newydd hyn ym Mhen-yr-heol.
“Mae’n bwysig i ni adeiladu cartrefi sy’n defnyddio technoleg werdd er mwyn i ni allu chwarae ein rhan ni i leihau effaith newid hinsawdd yng Nghymru, ac mae’r datblygiad hwn yn gam cadarnhaol arall i ddod â rhagor o dai fforddiadwy o ansawdd uchel i Fwrdeistref Sirol Caerffili.”
Mae'r 19 cartref newydd yn cynnwys 12 fflat ag un ystafell wely, 4 cartref âdwy ystafell wely a 3 thŷ â thair ystafell wely. Maen nhw i gyd yn defnyddio ynni solar a, gan eu bod nhw wedi'u hinswleiddio'n drylwyr i atal colli ynni, mae ganddyn nhw systemau adfer gwres wedi'u gosod i gyflenwi aer ffres wedi'i hidlo.
Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dro Dai, “Mae gweithio gyda’n partneriaid ni i ddarparu tai fforddiadwy o safon uchel yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor. Mae’r datblygiad cyffrous hwn nid yn unig yn helpu diwallu anghenion lleol, ond hefyd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn cysylltu ag ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau carbon yn y Fwrdeistref Sirol.”
Symudodd Joanna, preswylydd newydd, i'w chartref newydd ym mis Ebrill.
Dywedodd, “Roedden ni mor hapus pan wnaethon ni ddarganfod y bydden ni’n symud yma. Rydyn ni wrth ein bodd yn byw yma ac rydw i mor falch o fyw mewn tŷ carbon isel.”
Darparodd datblygiad Cwm Ifor gyfleoedd i wyth o drigolion United Welsh a chyn-aelod o’r lluoedd arfog gael gwaith a dysgu sgiliau adeiladu gwyrdd newydd.
Mae United Welsh wedi adeiladu dros 1,000 o gartrefi yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac yn bwriadu darparu 1,300 yn fwy yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyhoeddi Julian Simmonds fel Maer newydd
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y