News Centre

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr 2022

Postiwyd ar : 01 Meh 2022

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr 2022
Mae'r broses enwebu nawr ar agor ar gyfer y seremoni wobrwyo fawreddog sy'n cydnabod ymdrechion gwirfoddolwyr ymroddedig a hyrwyddwyr cymunedol.

Mae Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr Caerffili, sy'n cael eu cynnal gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a'u trefnu mewn partneriaeth â Chyngor Caerffili, yn gyfle i ddiolch a rhoi cydnabyddiaeth i bobl a grwpiau lleol sy'n rhoi o'u hamser, eu hegni a'u sgiliau i helpu eraill a chael effaith gadarnhaol yn eu cymuned.

Bob dydd, mae miloedd o bobl yn rhoi o'u hamser i warchod yr amgylchedd, arwain gweithgareddau ieuenctid, gwarchod ein treftadaeth, helpu'r rhai mewn angen ac ymateb i argyfwng rhyngwladol. Gallwch chi enwebu unigolyn neu grŵp yn y categorïau canlynol:
 
  • Amgylcheddol – Codi sbwriel, plannu coed ac ailgylchu yw rhai o'r ffyrdd mae gwirfoddolwyr yn annog cymunedau i ddod yn fwy cynaliadwy. Bydd y wobr hon yn dathlu'r rhai sy'n mynd yr ail filltir i warchod y blaned.
  • Ieuenctid – Mae pobl ifanc yn cael effaith gadarnhaol bob dydd ar gymdeithas, fel unigolion ac ar y cyd fel clybiau ieuenctid, grwpiau chwaraeon, Sgowtiaid a Geidiaid. Bydd y wobr hon yn cydnabod ymdrechion anhygoel ein dinasyddion iau.
  • Rhiant a Phlentyn – Cylchoedd plant bach, diwrnodau chwarae, boreau coffi a Chymdeithasau Rhieni ac Athrawon yw rhai o'r ffyrdd mae rhieni'n gwirfoddoli i wella bywydau plant yn ein cymunedau. Bydd y wobr hon yn cydnabod y rhai sy'n mynd yr ail filltir er budd y genhedlaeth nesaf.
  • Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr – Cynlluniau busnes, asesiadau risg, cyllid a recriwtio gwirfoddolwyr. Bydd y wobr hon yn cydnabod gwaith ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr nad yw'n cael ei weld gan amlaf.
  • Cynaliadwyedd Bwyd – Mae dosbarthu bwyd, ‘tun ar y wal’, a rhandiroedd cymunedol yn ein helpu ni i wastraffu llai o fwyd a helpu'r rhai mewn angen. Bydd y wobr hon yn gwobrwyo'r rhai sy'n gwneud i bethau ddigwydd.
  • Iechyd a Lles – Mae iechyd corfforol a meddyliol yn bwysig i ni i gyd, ac mae gwirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser i helpu eraill mewn lleoliadau iechyd ffurfiol a grwpiau cymunedol. Bydd y wobr hon yn dathlu'r rhai sy'n ein helpu ni i deimlo'r gorau y gallwn ni.
  • Taith Ysbrydoliaeth – Mae llawer o wirfoddolwyr yn goresgyn trychineb bersonol a brwydrau preifat i helpu eu cymunedau. Bydd y wobr hon yn cydnabod y rhai sy'n ymdrechu i gael effaith gadarnhaol.
  • Cyfraniad Rhyngwladol – Rhoi cymorth i ffoaduriaid, casglu cyflenwadau a gwirfoddoli dramor. Bydd y wobr hon yn cydnabod y rhai sy'n helpu gwneud y byd yn lle gwell.
  • Chwaraeon – Hyfforddwyr, cystadleuwyr a phwyllgorau; mae angen tîm i redeg grŵp chwaraeon llwyddiannus. Bydd y wobr hon yn dathlu'r rhai sy'n rhoi o'u hamser i feithrin talent chwaraeon lleol.
  • Diwylliant a Threftadaeth Cymru – Mae dosbarthiadau Cymraeg, sgyrsiau hanes, grwpiau ar-lein a phrosiectau adfer i gyd yn gwarchod ein treftadaeth a'n diwylliant er budd cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y wobr hon yn cydnabod gwaith y rhai sy'n sicrhau bod ein diwylliant yn ganolog i'n cymunedau bywiog.

Bydd seremoni wobrwyo arbennig i gydnabod yr enillwyr a'r rhai sy'n cael canmoliaeth uchel yn cael ei chynnal ym mis Medi, yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.

Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer gwobr, rhaid i unigolyn neu grŵp o wirfoddolwyr gyflawni eu gweithgaredd gwirfoddoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Bydd panel o gynrychiolwyr cymunedol lleol yn dewis enillydd ac ail orau ym mhob categori, a byddan nhw'n cael eu gwahodd i'r seremoni wobrwyo ranbarthol.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 1 Gorffennaf.
I gael rhagor o wybodaeth neu i enwebu, ewch i https://www.gavo.org.uk/post/time-to-celebrate-our-community-champions


Ymholiadau'r Cyfryngau