Ysgol Gynradd Libanus – Ysgol y Flwyddyn yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru
Postiwyd ar : 04 Gor 2023
Mae Ysgol Gynradd Libanus, ger Coed Duon, wedi cael ei chyhoeddi'n ysgol orau'r rhanbarth – gan gipio'r brif wobr, sef Ysgol y Flwyddyn, yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2023.
Meddai Nicola Williams, Pennaeth, “Mae lles plant yn ganolog i bopeth a wnawn, ac rydyn ni wedi adeiladu ein cymuned, cwricwlwm, a chyfle i ddisgyblion leisio'u barn ar sail anghenion ein plant.
“Rydyn ni'n chwilio'n gyson am gyfleoedd i wella profiadau ein plant trwy eu dysgu, ymweliadau ac ymwelwyr, a gweithgareddau cyfoethogi.
“Mae tîm ymroddedig o staff yn eu hannog nhw i ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial trwy ddarparu addysg a chymorth cyson ac o safon uchel.”
Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, “Mae'r Pennaeth, Nicola Williams, yn sicrhau bod ei thîm hi'n deall y weledigaeth ar gyfer yr ysgol ac yn ymddiried ynddyn nhw i wneud penderfyniadau cywir er lles y disgyblion.
“Mae hyn wedi caniatáu i Ysgol Gynradd Libanus esblygu, gwneud cynnydd a dod yn amgylchedd dysgu cynhwysol a chadarnhaol sy'n darparu cyfleoedd gwych.”
Llongyfarchiadau hefyd i Ysgol Uwchradd Bedwas, Ysgol Gyfun Martin Sant, ac Ysgol Bro Sannan ar eu gwobrau.
- Gwobr Tu Hwnt i'r Disgwyl - Emma Watt (Arweinydd Diogelu – Ysgol Gyfun Martin Sant)
- Gwobr Ysgol Gynradd y Flwyddyn - Ysgol Gynradd Libanus
- Athro Ysgol Gyfun y Flwyddyn - Becca Griffiths – Ysgol Gyfun Martin Sant
- Cynorthwyydd Dysgu y Flwyddyn - Kirsty Silcox – Ysgol Bro Sannan
- Gweithiwr Cymorth y Flwyddyn - Carolyn Hickling – Ysgol Gynradd Libanus
- Dosbarth y Flwyddyn - 8A – Ysgol Uwchradd Bedwas
- Enillydd Gwobr Ysgol y Flwyddyn - Ysgol Gynradd Libanus