News Centre

​Arweinydd yn cyhoeddi taliadau Prydau Ysgol Am Ddim yn ystod Gwyliau’r Ysgol ar gyfer Caerffili

Postiwyd ar : 04 Gor 2023

​Arweinydd yn cyhoeddi taliadau Prydau Ysgol Am Ddim yn ystod Gwyliau’r Ysgol ar gyfer Caerffili

Cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, gynlluniau i gefnogi dyraniad cronfa untro o £900mil i gefnogi teuluoedd gyda thaliad Prydau Ysgol Am Ddim yn ystod Gwyliau’r Ysgol yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i dynnu’r cyllid yn ôl.

Yn ystod cyfarfod llawn y cyngor heno, 4 Gorffennaf, bu’r Arweinydd yn myfyrio ar y ffordd yr oedd Caerffili wedi ymateb i’r Pandemig ac wedi arwain y ffordd i ddosbarthu prydau bwyd yn uniongyrchol i gartrefi dros 7,000 o ddisgyblion a sut symudodd y model cyflawni ymlaen i gynllun talebau ar gyfer taliadau gwyliau’r ysgol pan ailddechreuodd y gwaith o ddarparu  mewn ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Morgan, “Mae’r costau byw cynyddol wedi dod yn faich sylweddol ar ein cymunedau yn enwedig y rhai o gefndiroedd incwm isel. Mae’r adborth yr ydyn ni eisoes wedi’i dderbyn gan deuluoedd wedi dangos eu bod yn dibynnu’n llwyr ar y taliad hwn a bod ganddyn nhw bob disgwyliad y byddai’n parhau yn ystod gwyliau’r haf.”

Parhaodd i ddweud, “Rwy’n gwybod bod pob aelod yn rhannu’r farn ei bod yn hanfodol bod ein plant a’n pobl ifanc yn gallu mwynhau eu gwyliau ysgol gan wybod bod bwyd ar gael iddyn nhw. Gallwn ni fel Cyngor helpu i gymryd peth pwysau oddi ar deuluoedd sy'n brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd.”

Galwodd yr Arweinydd hefyd ar swyddogion i gyflwyno adroddiad yn gynnar yn yr hydref, a fydd yn amlinellu opsiynau i sicrhau bod y cymorth mawr ei angen hwn yn cael ei gynnal dros y tymor hwy, gan ffurfio rhan o'n pecyn cymorth cyffredinol Gofalu am Gaerffili.

Cytunodd y Cynghorydd Morgan ac arweinydd yr wrthblaid, Lindsey Whittle, i ofyn ar y cyd i Lywodraeth Cymru adolygu’r polisi Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgol, yng ngoleuni’r pwysau sydd ar y teuluoedd tlotaf, yng nghanol yr argyfwng costau byw hwn.

Bydd rhagor o fanylion am y taliad yn cael eu rhyddhau i deuluoedd cymwys dros yr wythnosau nesaf.



Ymholiadau'r Cyfryngau