News Centre

​Mae cysylltu â'ch heddlu'n haws nac erioed

Postiwyd ar : 03 Gor 2023

​Mae cysylltu â'ch heddlu'n haws nac erioed

Oeddech chi'n gwybod bod nifer o wahanol ffyrdd i gysylltu â'ch heddlu lleol yn awr, a bod staff sydd wedi'u hyfforddi'n bwrpasol ar gael i'ch helpu chi cyn gynted ag y byddwch yn cysylltu?

Bob mis mae'r cyhoedd yn cysylltu â Heddlu Gwent bron i 35,000 o weithiau; gall fod trwy amryw o wahanol ffyrdd gan gynnwys galwadau 999, galwadau 101, e-bost a'r cyfryngau cymdeithasol, fel y mae John Davies, yr Uwch-arolygydd sy'n rhedeg Canolfan Gyswllt a Rheoli'r Heddlu'n esbonio:

"Wrth i'r byd digidol ddatblygu mae plismona wedi datblygu hefyd. Rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cysylltu â ni 24/7 yn y ffordd maen nhw eisiau cyfathrebu. Mae'n hawdd ac yn gyflym - rydyn ni lle'r ydych chi, ar-lein.

"Gwelsom y galw mwyaf ar ein gwasanaethau'r llynedd ym mis Gorffennaf ac Awst ac wrth i'r misoedd hyn agosáu rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwahanol ffyrdd y gallant eu defnyddio i gysylltu â ni, a'u bod yn defnyddio'r gwasanaeth 999 yn gywir. Gofynnaf i bobl ystyried yn ofalus cyn deialu, gofynnwch i chi'ch hun: ydy hwn yn argyfwng gwirioneddol? Mae angen i ni gadw'r llinellau'n glir ar gyfer y bobl sydd eu hangen nhw go iawn."

"Yr eiliad mae cysylltydd yn ateb galwad 999 mae'n gweld sut gall eich helpu chi, y galwr, a'ch cadw chi'n ddiogel."

Dyma pryd i ffonio 999:

  • os oes trosedd ddifrifol yn cael ei chyflawni neu newydd gael ei chyflawni
  • os oes rhywun mewn perygl yn awr
  • os yw eiddo mewn perygl o gael ei niweidio
  • os yw amhariad difrifol ar y cyhoedd yn debygol 

Ar gyfer materion difrys fel ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddwyn, i roi gwybod i ni neu i ofyn am wybodaeth, gallwch:

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Hafan | Heddlu Gwent 



Ymholiadau'r Cyfryngau