News Centre

Rhybudd o Gynnig ar gyfer Chwarel Tŷ Llwyd

Postiwyd ar : 04 Gor 2023

Rhybudd o Gynnig ar gyfer Chwarel Tŷ Llwyd

Cafodd rybudd o gynnig ei gytuno mewn cyfarfod llawn y cyngor heno i ofyn am arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rheoli hen safle Chwarel Tŷ Llwyd yn Ynys-ddu yn y dyfodol.

Mae cyfres o gyfathrebiadau parhaus ynglŷn â’r mater hwn wedi’u dosbarthu i drigolion lleol ar ffurf cylchlythyr manwl a ffeithiol am hanes y safle, a’r cynlluniau rheoli cyfredol ac yn y dyfodol, cyfarfodydd a datganiadau, ar ôl i’r siambr drwytholch orlifo, gan arwain at ddŵr sy'n cynnwys trwytholch i adael tir dan berchnogaeth a elwir yn goetir Pantyfynnon a'i ollwng i'r briffordd gyhoeddus islaw, ar ôl cyfnod o law trwm a pharhaus yn gynharach eleni.

Mae'r Cyngor wedi trefnu cynllun samplu cadarn ar draws nifer o leoliadau i fonitro'r sefyllfa'n agos a llywio'r gwaith parhaus gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a'i ymgynghorwyr, i lunio cynllun rheoli wedi'i ddiweddaru. Bydd y cynllun hwn yn cael ei lywio gan 8 mis pellach o samplu i gymryd yr effeithiau tymhorol i ystyriaeth. Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r mater ynghylch a yw'r safle'n bodloni'r diffiniad cyfreithiol o dir halogedig. Yn ogystal, mae asesiadau pellach i sefydlu a oes angen caniatâd gollwng dŵr gan CNC ac, os felly, pa driniaeth trwytholch ychwanegol fydd ei hangen er mwyn cydymffurfio â’r caniatâd hwnnw.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am y maes portffolio, y Cynghorydd Philippa Leonard, “Rydyn ni’n awyddus i fynd i’r afael ag unrhyw wybodaeth anghywir sy’n cylchredeg yn y gymuned gan nad ydyn ni’n teimlo bod y dychryn cyhoeddus hwn yn ddefnyddiol. Mae’n bwysig nodi, pan gawson ni’r llythyr gan CNC yn dilyn yr ymchwiliad, ein bod wedi rhannu’r cynnwys ag aelodau lleol ac fe wnaethon ni gyhoeddi datganiad yn ysbryd tryloywder, y dull rydyn ni wedi’i ddefnyddio drwy gydol y broses hon.”

Ychwanegodd, “Rwy’n awyddus i unioni’r sefyllfa sef yr honiad bod lefelau PCB uchel yn Afon Sirhywi, mae hyn yn ymwneud â sampl a gafodd ei  chymryd 27 mlynedd yn ôl. Mae samplo dŵr afon yn ddiweddar wedi dangos bod lefelau PCB yn is na'r terfyn canfod, dyma enghraifft wych o'r dychryn a'r ffordd y caiff ei eirio, gwybodaeth anghywir. Rwyf am roi sicrwydd i’r gymuned ein bod ni wedi ymrwymo i fonitro’r safle’n agos ac rwy’n annog aelodau lleol i fynychu’r cyfarfodydd parhaus ynghylch rheoli’r safle yn y dyfodol.”

Mae rhagor o fanylion am y rhybudd o gynnig ar gael yma -

https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=127&MId=13981&LLL=0



Ymholiadau'r Cyfryngau