News Centre

UniGreenScheme: y cwmni ailwerthu asedau lleol sydd wedi ennill sawl gwobr yn gweithio gyda dros 60 o brifysgolion, sefydliadau ac ysbytai yn y DU

Postiwyd ar : 24 Gor 2023

UniGreenScheme: y cwmni ailwerthu asedau lleol sydd wedi ennill sawl gwobr yn gweithio gyda dros 60 o brifysgolion, sefydliadau ac ysbytai yn y DU
Mae Universal Resource Trading Ltd, sy'n masnachu fel UniGreenScheme, yn wasanaeth ailwerthu asedau sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi'i leoli yn Ystâd Ddiwydiannol Pontygwindy yng Nghaerffili, a gafodd ei sefydlu gan sylfaenydd Cymru, Michael McLeod. Mae'r cwmni wedi bod yn gweithredu ers 2015, gan lansio'n wreiddiol fel busnes newydd i fyfyrwyr.

Mae'r cwmni'n casglu offer labordy diangen a segur gan brifysgolion, ei storio a'i werthu ac yn rhoi cyfran o'r elw yn ôl i'r sefydliadau. Hyd yma, mae tua £450,000 wedi'i fuddsoddi'n ôl mewn i sefydliadau, gyda thua £3 miliwn wedi'i arbed i sefydliadau mewn costau offer. Yn ogystal â hyn, trwy atal offer rhag cael eu hanfon i gyfleusterau gwaredu gwastraff, mae UniGreenScheme hefyd wedi arbed tua 2.5 miliwn cilogram o allyriadau carbon.

Dywedodd Ben Glazier, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr yn UniGreenScheme, “Yn ogystal â'r ffactor amgylcheddol, mae rhoi cyfran o’r elw yn ôl i sefydliadau yn golygu ein bod ni'n rhoi cyllid yn ôl i bethau fel ymchwil canser. Rydyn ni'n ymestyn oes cynhyrchion ac yn helpu labordai llai nad ydyn nhw mor gefnog â labordai mwy neu sydd wedi'u hariannu'n well, fel y gallan nhw hefyd wneud ymchwil.”

Mae'r cwmni'n cyflogi 20 o staff ac yn trosi gwerth o dros £1.5 miliwn y flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda dros 60 o brifysgolion yn y DU, gan gynnwys sefydliadau mewn gwledydd eraill, gyda 60% o'r cynhyrchion wedi'u gwerthu'n cael eu hallforio. Maen nhw hefyd wedi darparu offer i gwmnïau propiau ffilm a theledu, gyda’u hoffer nhw'n cael sylw mewn cynyrchiadau fel Star Wars: Andor a Fast and Furious Presents: Hobbs and Shaw.

Ar ôl nodi safle addas ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Gorffennaf 2020, fe wnaeth UniGreenScheme gysylltu â'r Cyngor ym mis Hydref yr un flwyddyn am grant i'w helpu nhw i symud o Dorfaen. Fe gafodd y cwmni £10,000 gan Gronfa Fenter Caerffili i gyflawni hyn. Cafodd y swm hwn 50% o arian cyfatebol gan UniGreenScheme, ac roedd y grant yn helpu i adnewyddu eu hadeiladau newydd, gan gynnwys goleuadau newydd.

Ers symud i Gaerffili, mae’r busnes wedi creu 5 swydd newydd, ac ym mis Ebrill 2022, fe gafodd UniGreenScheme grant arall gan Gronfa Fenter Caerffili o ychydig dros £9,000 a gafodd 50% o arian cyfatebol er mwyn helpu i gwblhau ardal mesanîn yn eu safle nhw.

Ym mis Mai 2023, fe wnaeth UniGreenScheme gael £3,750 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant hwn 50% o arian cyfatebol gan UniGreenScheme a gafodd ei roi i’r cwmni trwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Fe wnaeth y grant gyfrannu at y cwmni’n mynychu cynhadledd fawreddog yng Nghaerfaddon, lle gallan nhw fynychu fel prif noddwr a chael slot 10 munud i siarad er mwyn arddangos eu cwmni nhw. Mae hwn yn gyfle allweddol i’r busnes siarad â dros 300 o bobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yn eu sector. Maen nhw hefyd yn gobeithio cynhyrchu fideo i allu ei chwarae er mwyn arddangos eu hymgyrch nhw.

Dywedodd Michael McLeod, Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr UniGreenScheme, “Fe wnaeth y cymorth gan Gyngor Caerffili ein helpu ni i drawsnewid ein cyfleusterau adnewyddu offer yn llwyr, gan ganiatáu i ni wella ansawdd ac effeithlonrwydd y gwaith sy'n cael ei wneud gan ein tîm."

“Daeth y cymorth hwn ar adeg hollbwysig yn ein busnes ni pan oedden ni'n tyfu’n gyflym iawn ond roedd ein adnoddau ariannol yn gyfyngedig ac felly roedd yn hanfodol i alluogi’r busnes i lwyddoac ehangu. Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r canlyniadau ac roedd y broses ymgeisio gyfan yn syml. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cymorth.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Roedd yn wych cwrdd â chynrychiolwyr UniGreenScheme i glywed am y cymorth maen nhw wedi’i gael i dyfu'r busnes ymhellach. Mae'r cwmni'n gweithio gyda 22 o'r 24 o brifysgolion blaenllaw Grŵp Russell yn y DU, yn ogystal â nifer o sefydliadau ymchwil, ysbytai a chleientiaid yn y sector preifat. Gwaith arbennig gan bawb”.

Mae UniGreenScheme yn edrych ymlaen at barhau i dyfu eu busnes ac ehangu i weithio gyda gwahanol sectorau. Dywedodd Michael McLeod, “Hyd yn hyn, dim ond gydag offer sector prifysgolion rydyn ni wedi gweithio, ond rydyn ni bellach yn ehangu’n gyflym i’r sector preifat hefyd gyda llawer o gleientiaid mawr yn defnyddio’r gwasanaeth.”

“Wrth symud ymlaen, o ran tyfu, y broblem yw lle. Rydyn ni'n gobeithio tyfu ein gofod gweithredu. Y tu hwnt i hynny, hoffen ni barhau i dyfu’r tîm, ac yn y 5 mlynedd nesaf, os yw pethau’n mynd yn dda, dylen ni allu trosi gwerth £8 i £10 miliwn y flwyddyn gyda thua 50-60 o staff yn ein tîm ni.”

I gael rhagor o wybodaeth am UniGreenScheme, ewch i'w gwefan nhw: www.unigreenscheme.co.uk

Neu dod o hyd iddyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol:
Facebook (https://www.facebook.com/UniGreenScheme)
Twitter (https://twitter.com/UniGreenScheme)
LinkedIn (https://uk.linkedin.com/company/unigreenscheme)

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF.
E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau