News Centre

Gweithgareddau haf i ddifyrru’r holl deulu!

Postiwyd ar : 31 Gor 2023

Gweithgareddau haf i ddifyrru’r holl deulu!
Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi cael eu trefnu ar gyfer gwyliau haf yr ysgolion i ddifyrru plant a theuluoedd Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Byddwn ni'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys chwarae, adloniant, chwaraeon a hamdden dros yr haf. Cewch chi gyfle i gymryd rhan mewn gwersi nofio am ddim, diwrnodau antur, adrodd straeon, gwersylloedd chwaraeon a mwy. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal gan sawl sefydliad, gan gynnwys: Dull Byw Hamdden, Chwaraeon Caerffili, Anturiaethau Caerffili, Llyfrgelloedd, Dysgu Oedolion yn y Gymuned a Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar Caerffili.

Cewch weld rhestr lawn o weithgareddau a sut i gadw lle isod.

Dull Byw Hamdden
  • Cwrs Nofio Dwys ar gael yng Nghanolfannau Hamdden Trecelyn, Heolddu a Caerffili.
  • Mae gwersi nofio am ddim i blant dan 16 ar gael yng Nghanolfannau Hamdden Rhisga, Trecelyn, Bedwas, Heolddu a Chefn Fforest.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.caerphillyleisurelifestyle.co.uk/cy/ 

Chwaraeon Caerffili
  • Gwersyll Athletau
  • Gwersyll Pêl-droed
  • Cynllun Chwaraeon Anabledd 
  • Cynllun Chwaraeon yr Haf

Defnyddiwch Ap Dull Byw Hamdden i gadw eich lle ar y digwyddiadau hyn.
 
  • Cyrraedd a Chwarae Pêl-droed - Ffoniwch 01443 864767 neu e-bostio CSE@caerffili.gov.uk i gadw lle.

Anturiaethau Caerffili
  • Diwrnodau Antur Iau - Defnyddiwch yr Ap Dull Byw Hamdden i gadw eich lle.

Sialens Ddarllen yr Haf
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yma! Casglwch sticeri a gwobrau arbennig am ddarllen. Ewch i'ch llyfrgell leol neu ymuno ar-lein: https://sialensddarllenyrhaf.org.uk/

Louby Lou Storytelling
Cewch brofi straeon hudolus Louby Lou’s Interactive Storytelling yn:

Dydd Llun 31 Gorffennaf
Dydd Mercher 9 Awst
Bowls gyda Chwaraeon Caerffili - Sesiwn flasu am ddim
Does dim angen cadw lle, dewch i roi tro arni. Addas ar gyfer pob oed - plant ac oedolion. Ar gael yn:

Dydd Llun 31 Gorffennaf
  • Llyfrgell Caerffili – 10am-12pm
  • Llyfrgell Bedwas - 2pm-3pm

Dydd Mawrth 3 Awst
  • Llyfrgell Coed Duon - 10am-12pm
  • Llyfrgell Trecelyn - 2pm-3pm

Dydd Mercher 9 Awst
  • Llyfrgell Rhisga – 2pm-4pm

Dydd Mercher 16 Awst
  • Llyfrgell Ystrad Mynach - 12pm-1pm
  • Llyfrgell Abercarn - 3pm-4pm

Tylluanod ac Adar – Falconry UK
Sesiynau am ddim ddydd Mercher 23 Awst. Ar gael yn:
 
Afrosheep Animations
Dewch i ddysgu am fyd cyffrous animeiddio, addas ar gyfer oed 7-12. Ddydd Mawrth 22 Awst. Ar gael yn:
 
Chwarae yn y Parc
Digwyddiad chwarae yn y parc am ddim, gyda mynediad agored, i rieni a phlant chwarae gyda'i gilydd. Ar gael yn:
  • Parc Morgan Jones
  • Parc Rhymni
  • Parc Ystrad Mynach 
  • Parc Bargod
  • Parc Waunfawr, Crosskeys
  • Maes y Sioe, Coed Duon

Am ragor o wybodaeth am ddyddiadau ac amseroedd, ewch i https://www.caerffili.gov.uk/services/children-and-families/children-play/play-in-the-park?lang=cy-gb

Cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Os ydych chi am ddechrau ar hobi newydd, gwella'ch sgiliau, neu gael hwyl, mae gan y tîm dysgu oedolion yn y gymuned amrywiaeth eang o gyrsiau a gweithdai i chi eu dewis.

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael, ewch i https://www.caerffili.gov.uk/services/schools-and-learning/adult-learning/courses/adult-summer-courses-2023?fbclid=IwAR0mNghUNkQj9Fy3iQPEE6LHzvgsdlLwTkPRiTeKk8X_h4fmTZs0uKzSZwI&lang=cy-gb

Cadwch olwg ar ein tudalennau Facebook a Twitter am weithgareddau eraill ac am ragor o wybodaeth. 


Ymholiadau'r Cyfryngau