News Centre

Datblygu cynlluniau ar gyfer Pontllan-fraith

Postiwyd ar : 26 Gor 2023

Datblygu cynlluniau ar gyfer Pontllan-fraith
Pontllanfraith Leisure Centre

Bydd cynlluniau cyffrous i greu cyfleusterau cymunedol newydd ar safle hen ysgol uwchradd ym Mhontllan-fraith yn dechrau cael eu llunio fis nesaf.

Bydd y gwaith o ddymchwel hen adeiladau Ysgol Gyfun Pontllan-fraith yn dechrau ym mis Awst i wneud lle ar gyfer canolfan addysg newydd ynghyd â neuadd chwaraeon â 4 cwrt a man chwarae amlddefnydd gydag arwyneb 3G.

Mae'r gwaith paratoi yn ymwneud â dymchwel a symud offer a pheiriannau o fewn safle cyfyngedig. Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd y ganolfan hamdden gyfagos a’r maes chwarae 3G presennol ar gau i’r cyhoedd drwy gydol mis Awst er mwyn caniatáu i gam cyntaf y cynllun symud ymlaen yn ddiogel.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sydd wedi bod yn defnyddio’r ganolfan hamdden fel canolfan frechu dros y blynyddoedd diwethaf, bellach wedi gadael y safle er mwyn caniatáu i’r gwaith fynd rhagddo.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Hamdden, “Rydyn ni'n croesawu dechrau’r gwaith i ddatblygu’r cyfleusterau cymunedol newydd cyffrous hyn, ond oherwydd ystyriaethau iechyd a diogelwch, rydyn ni hefyd yn cydnabod y bydd rhywfaint o anghyfleustra yn y tymor byr i hwyluso’r cynllun dymchwel.

Bydd y cae 3G yn ailagor ym mis Medi, ond nawr bod y bwrdd iechyd wedi cwblhau ei raglen frechu yn y ganolfan hamdden, bydd yn bosibl ystyried dyfodol y cyfleuster yn ffurfiol dros y misoedd nesaf fel rhan o adolygiad hanner ffordd o’n Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 10 mlynedd.

Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys ein holl gyfleusterau ledled y Fwrdeistref Sirol i sicrhau ein bod ni'n darparu darpariaeth fodern, addas i’r diben sy'n diwallu anghenion esblygol ein cymunedau ni, wrth barhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol.

Bydd y broses benderfynu yn cynnwys ymgynghori ac ymgysylltu cyhoeddus eang cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.”

Bydd Canolfan Hamdden Pontllan-fraith ar gau wrth i ni aros am ganlyniad yr adolygiad hwn, gan y byddai angen cryn dipyn o waith a buddsoddiad i wneud y safle'n gwbl weithredol eto. Mae cyfleusterau eraill ar gael mewn safleoedd eraill ledled y Fwrdeistref Sirol sydd wedi croesawu defnyddwyr dros y 2 flynedd ddiwethaf yn ystod yr amser y cafodd y safle ei ddefnyddio fel canolfan brechu torfol.

 



Ymholiadau'r Cyfryngau