News Centre

Caerffili, mae angen eich help chi – ymunwch â'r mudiad ailgylchu

Postiwyd ar : 27 Gor 2023

Caerffili, mae angen eich help chi – ymunwch â'r mudiad ailgylchu
Mae pobl ifanc yn apelio at drigolion Caerffili i ymuno â'r mudiad ailgylchu o ganlyniad i gymeradwyaeth Cabinet Caerffili i gefnogi trywydd y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff.
 
Cytunodd y Cabinet ar drywydd sy'n amlinellu cynlluniau i ddatblygu Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu. I gychwyn yr ymgyrch cyhoeddus i gynyddu cyfranogiad rydyn ni'n clywed gan ddisgyblion Ysgol Cwm Gwyddon, gyda neges bwysig, “Caerffili, mae angen eich help chi!”.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Mae'r neges hon gan ddisgyblion Ysgol Cwm Gwyddon yn ein hatgoffa ni fod y mudiad ailgylchu yn hollbwysig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod ni'n gallu cyflawni'r targedau uchelgeisiol sydd wedi'u nodi gan Lywodraeth Cymru gyda gwasanaeth ailgylchu cadarn.”
 
Mae'r trywydd saith mlynedd yn amlygu nifer o ‘brosiectau piler’ sydd wedi'u nodi fel ymyriadau ar unwaith, gan ddisgwyl iddyn nhw gynyddu perfformiad ailgylchu. Mae'r prosiectau piler hyn yn cynnwys:
 
  • Darpariaethau Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi – Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i wella arwyddion a chynlluniau'r safleoedd, gwella gwasanaethau i gwsmeriaid ac ymgysylltu â nhw, yn ogystal â chyflwyno gofyniad didoli ymlaen llaw.
  • Ailgylchu gwastraff sych wrth ymyl y ffordd – Bydd ymgyrch eang yn cael ei lansio yn hysbysu trigolion am sut a pham i ailgylchu gan greu sylfeini cryf ar gyfer newid ymddygiad.
  • Ailgylchu gwastraff organig wrth ymyl y ffordd – Bydd gwaith yn parhau i dynnu sylw at fanteision ailgylchu gwastraff organig drwy fentrau fel yr ymgyrch Gweddillion am Arian a bydd hefyd yn cyflwyno treial 12 mis o ran leininau cadis am ddim.
  • Gwastraff gweddilliol wrth ymyl y ffordd – Bydd y Cyngor yn parhau i ymgysylltu â thrigolion ynghylch y polisïau gwastraff gweddilliol presennol, er enghraifft, pentyrru bagiau ar ben y bin a gwastraff wrth ochr y bin.
  • Gwasanaeth masnachol – Bydd y gwasanaethau presennol yn cael eu hadolygu i sicrhau bod y gwasanaeth gwastraff masnachol gweddilliol yn gystadleuol. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Er bod rhai trigolion yn gwneud eu rhan, rydyn ni'n gwybod bod tua 50% o finiau cyffredinol gwyrdd Caerffili yn cynnwys deunyddiau sy'n gallu cael eu hailgylchu, gan gynnwys 9,000 tunnell o wastraff bwyd. Mae hynny'n swm syfrdanol ac rwy'n sicr y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd gyda gwasanaethau gwell, fel sydd wedi'u hamlinellu yn y trywydd, a mwy o gyfranogiad gan drigolion, i gyflawni cyfraddau ailgylchu o 70% a thu hwnt i wneud y peth iawn a diogelu ein hamgylchedd ni.”
 
Fel rhan o'r ymgyrch, gall trigolion ddisgwyl gweld deunyddiau'n cael eu danfon yn uniongyrchol i gartrefi, yn amlinellu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu o fewn y Fwrdeistref Sirol.
 
Bydd strategaeth ddrafft wedi'i diweddaru yn cael ei datblygu i'w hystyried gan Gyd-bwyllgor Craffu a'i benderfynu gan y Cabinet yn hwyr yn yr hydref 2023. Os yw'n cael ei gytuno, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar ddechrau 2024.

Gwyliwch y fideo llawn yma.
 
Am ragor o wybodaeth am ymuno â'r mudiad ailgylchu, ewch i'n tudalennau gwe www.caerffili.gov.uk/ailgylchu  


Ymholiadau'r Cyfryngau