News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhoi £500 i ailgylchwyr gwastraff bwyd arall!

Postiwyd ar : 18 Gor 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhoi £500 i ailgylchwyr gwastraff bwyd arall!
Mae trigolyn arall Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill £500 am ailgylchu gwastraff bwyd fel rhan o ymgyrch y Fwrdeistref, Gweddillion am Arian.

Mae Mr a Mrs Roberts o Bontllan-fraith wedi cael eu cyhoeddi fel enillwyr diweddaraf ymgyrch Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym mis Mawrth 2022, gyda'r nod o gynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd a chyfrannu at dargedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru. Gan weld tai yn cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, i ennill £500.

Mae holl drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gymwys i ennill y wobr arian parod ar yr amod eu bod nhw'n rhoi eu cadi ailgylchu gwastraff bwyd allan i'w gasglu.

Dywedodd Mr a Mrs Roberts: "Dydyn ni ddim yn gallu coelio ein bod ni wedi ennill - roedd hi'n sioc fawr arnon ni i gael cnoc ar y drws.

"Rydyn ni wedi bod yn ailgylchu ein gwastraff bwyd ers cyn cof. Dydyn ni ddim yn gwybod pam na fyddech chi’n ei wneud. Dim ond gwastraff bwyd yw e' i ni, ond pan ydych chi'n meddwl y gallan nhw wneud defnydd ohono fe, mae'n amlwg mai ailgylchu yw'r peth iawn i'w wneud."

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd: "Llongyfarchiadau i Mr a Mrs Roberts, ac i'n holl enillwyr blaenorol yn ein hymgyrch Gweddillion am Arian.
"Rydyn ni wastad yn edrych am ffyrdd newydd a chyffroes i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu, a sicrhau ein bod ni’n cyrraedd ac yn rhagori ar dargedau statudol Llywodraeth Cymru, ac mae'n anrhydedd bod gennym ni fodd o wneud hyn drwy ddefnyddio ymgyrchoedd fel Gweddillion am Arian, sy'n gwobrwyo’n trigolion sy'n cymryd rhan.

“Diolch i'r holl drigolion hynny sydd eisoes yn cymryd rhan yn y gwasanaeth casglu wythnosol ac rydyn ni'n eich annog chi i gyd i gymryd rhan a chael cyfle i ennill y wobr arian parod nesaf.”

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: https://www.caerffili.gov.uk/services/household-waste-and-recycling/food-waste?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau