Gwastraff bwyd

Treial leininau cadis am ddim

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili ar genhadaeth. Mae angen i ni fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a hybu cyfraddau ailgylchu, ond mae angen eich help arnom ni. Er mwyn helpu i gyrraedd ein targedau ailgylchu a rhagori arnyn nhw, rydyn ni wedi lansio treial cyffrous 12 mis.

Bydd y treial yn darparu leininau cadi gwastraff bwyd dan do sy'n rhad ac am ddim i drigolion. Cafodd y cyflenwad 6 mis cyntaf ei ddosbarthu i gartrefi trigolion o fis Rhagfyr 2023.

Mae’r cyflenwad y 6 mis dilynol bellach ar gael i’w gasglu o:

Pa wastraff bwyd sy'n gallu cael ei ailgylchu?

Darganfod rhagor am yr hyn sy'n mynd i mewn i’ch cadi bwyd.

Sut i atal eich cadi gwastraff bwyd rhag drewi?

Cadwch eich cadis gwastraff bwyd rhag drewi drwy ychydig o gamau syml:

  • Leinio'ch cadi gyda phapur newydd, leinin compostio neu fagiau bara. Bydd hyn yn helpu i gadw eich gwastraff bwyd chi’n gynwysedig.
  • Osgoi rhoi unrhyw hylif fel llaeth neu olew yn eich cadis. Syniad da – gwasgwch fagiau te yn dynn a gadael iddyn nhw oeri cyn eu rhoi nhw yn y cadi. Bydd hyn yn helpu i atal lleithder rhag cronni.
  • Gwagio'ch cadi cegin chi i'r un allanol yn rheolaidd.
  • Bydd cau'r caead ar eich cadi cegin yn atal drewdod a phryfed. Peidiwch ag anghofio y dylech chi hefyd gloi eich cadi allanol. Bydd hyn yn helpu i atal plâu ac amddiffyn rhag tywydd gwyntog.
  • Glanhewch eich cadis yn rheolaidd gyda dŵr sebon cynnes. Syniad da –  mae lemwn yn niwtralydd arogleuon naturiol. Bydd rhwbio cnawd lemwn ar y tu mewn i'ch cadi chi'n ei gadw i arogli'n ffres.

Sut i ailgylchu gwastraff bwyd?

Rydyn ni'n casglu gwastraff bwyd o bob un o’r 80,000 o gartrefi bob wythnos, felly ni allai ailgylchu eich gwastraff bwyd fod yn haws.

Mae gwastraff bwyd yn cynnwys tua 70% o ddŵr, sydd angen mwy o ynni i'w losgi. O ganlyniad, mae hyn yn ei wneud yn ddull gwaredu llai effeithlon nag ailgylchu.

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n rhoi'r cyfle i drigolion sy'n cymryd rhan yn y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd ennill £500 mewn arian parod! 

Byddwn ni'n gwirio tai bob mis. Bydd un cyfranogwr ailgylchu yn cael ei ddewis ar hap i ennill £500. I gymryd rhan, rhowch eich cadi gwastraff bwyd allan i'w gasglu. 

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Ailgylchu@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866533.

Gwnewch gais am gadi gwastraff bwyd newydd yn rhad ac am ddim. Neu ffonio 01443 866533.

Beth os nad ydw i'n cynhyrchu gwastraff bwyd?

Cofiwch nad oes swm o fwyd sy'n rhy fach. Y peth gorau y gallwn ni ei wneud gyda'n bwyd yw ei fwynhau. Ond mae rhywfaint o wastraff fel crwyn banana, bagiau te ac esgyrn yn anochel, ac mae modd ailgylchu'r rhain i gyd.

Sut mae cael cadi gwastraff bwyd?

Gall trigolion gael cadi cegin 5 litr a chadi awyr agored 23 litr i'w gasglu o ymyl y ffordd. Gallwch wneud cais am y ddau gadi am ddim. 

A fydd y bwyd yn fy min yn drewi?

Ni fydd eich cadi gwastraff bwyd yn drewi os byddwch chi'n ei lanhau yn rheolaidd a dilyn yr awgrymiadau glanhau uchod.

Pa leinin ddylwn i ei ddefnyddio yn fy nghadi cegin?

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn rhoi leinin yn eu cadi cegin i gadw'r gwastraff bwyd yn gynwysedig. Gallwch chi leinio'ch cadi â phapur newydd, bagiau compostio neu fagiau eraill fel bagiau bara.

Awgrymiadau da

  • Mae modd leinio'ch cadi gyda leinin compostio, bagiau bara neu bapur newydd.
  • Pryd bynnag y bydd angen i chi wagio'ch cadi, clymwch y top a'i roi yn eich cadi awyr agored – gwagiwch eich cadi cegin yn rheolaidd i atal drewdod.
  • Cofiwch fod eich cadi awyr agored yn dod â handlen y mae modd ei chloi.
  • Rhowch eich cadi awyr agored allan i'w gasglu cyn 5.30am. Gallwch chi wirio eich diwrnod bin i wneud yn siŵr ei fod allan ar y diwrnod cywir. 
Cysylltwch â ni