Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ionawr 2024
Cyllid newydd i helpu busnesau Caerffili adeiladu dyfodol glanach
News Centre
Cyllid newydd i helpu busnesau Caerffili adeiladu dyfodol glanach
Postiwyd ar : 23 Ion 2024
Gall busnesau a sefydliadau'r trydydd sector yng Nghaerffili gael mynediad at gymorth sydd wedi'i ariannu'n llawn ac sydd wedi’i fwriadu i'w helpu i sbarduno arloesedd a hybu cynaliadwyedd o fis Ionawr 2024 ymlaen, diolch i gyllid newydd sydd wedi’i sicrhau gan Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC).
Mae'r Rhaglen Twf Glân wedi'i hariannu'n llawn ar gyfer sefydliadau cymwys ac mae’n cynnig yr offer sydd eu hangen ar gyfranogwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r economi gylchol, a’u helpu i weithio tuag at nodau Sero Net, gwella lefelau gwasanaethau, lleihau costau gweithredu a chyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae'r rhaglen hefyd yn helpu sefydliadau i hybu arloesedd, gan ddatblygu cynlluniau twf glân a allai fod yn gymwys ar gyfer cyllid arloesi Llywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i'r galw cynyddol o du busnesau, mae’r cymhwystra ar gyfer mewnlifiad 2024 wedi'i ehangu i gynnwys cwmnïau'r sector preifat am y tro cyntaf.
Bydd y rhaglenni chwe mis newydd yn gweld hyd at 30 o sefydliadau'n dod at ei gilydd i ffurfio cymunedau arloesi newydd. Bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai misol a dau ddiwrnod preswyl, gan ddatblygu eu dealltwriaeth o'r economi gylchol, eu cynlluniau ar gyfer twf glân ac arloesi ar y cyd. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu cyfeirio at y cymorth ychwanegol sydd ar gael a staff prifysgolion, yn ogystal â chymorth mentora 1-i-1.
Dywedodd cyfarwyddwr rhaglen CEIC, Gary Walpole: "Rydyn ni’n falch iawn o allu ymestyn y rhaglenni CEIC i gwmnïau preifat o 2024 ymlaen trwy'r Rhaglen Twf Glân. Bydd newid y garfan yn creu cyfleoedd gwerthfawr i sefydliadau o bob sector ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu’r arferion gorau a nodi meysydd sydd o ddiddordeb i bawb.
"Yn ein profiad ni, mae'r dull cydweithredol yma yn cyflymu'r gwaith o ddatblygu camau arloesol newydd sydd nid yn unig o fudd i'r sefydliadau dan sylw ond hefyd i'r economi ehangach."
Mae'r Rhaglen Twf Glân yn dysgu sefydliadau am yr egwyddorion sy'n sail i'r Economi Gylchol, gan eu helpu i ailfeddwl am reoli adnoddau a chyfrannu at uchelgais ‘Sero Net’ Llywodraeth Cymru. Mae'r cyfranogwyr yn rhannu offer, technegau a’r arferion gorau gyda chyd-aelodau'r gymuned er mwyn nodi a dyfeisio atebion ymarferol i'w heriau twf glân.
"Gyda thargedau sero net swyddogol yn ffurfioli cysylltiadau amgylcheddol rhwng sefydliadau ar bob cam o'r gadwyn werth, mae'r rhaglenni CEIC yn cynnig cyfle gwirioneddol i fusnesau a sefydliadau'r trydydd sector ar draws yng Nghaerffili gydweithio i ddatblygu cynlluniau a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon ac yn diogelu eu gweithrediadau yn y dyfodol," meddai Gary. "Mae pwysigrwydd arferion cynaliadwy a chyd-ddibyniaeth sefydliadau yn cael ei adlewyrchu fwyfwy mewn arferion recriwtio a chaffael, sy'n golygu na fu erioed amser gwell i sefydliadau adolygu eu dull gweithredu a diogelu eu perfformiad yn y dyfodol."
Mae'r rhaglen Twf Glân yn cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Gall sefydliadau wneud cais drwy
www.ceicwales.org.uk/Spring2024
neu gofrestru ar gyfer un o sesiynau Mewnwelediad ar-lein di-dâl CEIC i ddysgu mwy.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyhoeddi Julian Simmonds fel Maer newydd
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y