News Centre

Garejys ar gael i'w rhentu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 22 Chw 2022

Garejys ar gael i'w rhentu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili nifer o garejys gwag ar gael i drigolion eu rhentu.

Mae garejys ledled y Fwrdeistref Sirol, a gall tenantiaid y Cyngor neu berchnogion preifat eu rhentu nhw.

Ar hyn o bryd, mae garejys ar gael i'w rhentu gan y Cyngor yn Rhymni, Tredegar Newydd, Aberbargod, Gilfach, Maes-y-cwmwr, Nelson, Cwmcarn, Trecenydd, Trinant, Parc Churchill, Bryncenydd, Tretomos, Pentwyn-mawr, Cefn-y-pant, Parc Lansbury, Coed Duon, Cefn Fforest, Pontllan-fraith, Tŷ Sign, a Heol Claude, Caerffili.

I gael rhagor o wybodaeth am rent wythnosol a sut i wneud cais, ffoniwch Dîm Tai y Cyngor ar 01443 873535 neu ewch i.


Ymholiadau'r Cyfryngau