News Centre

Rhodd yn rhoi arfau ar gyfer llwyddiant i brentisiaid

Postiwyd ar : 21 Rhag 2023

Rhodd yn rhoi arfau ar gyfer llwyddiant i brentisiaid
Mae prentisiaid newydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael yr arfau ar gyfer llwyddiant, diolch i rodd hael gan Robert Price Builders Merchants.
 
Cafodd pecynnau cymorth pwrpasol eu rhoi ar gyfer 7 prentis newydd eu recriwtio, gyda chrefftau'n cynnwys gwaith coed, trydan a phlastro. Mae'r prentisiaid i gyd yn gweithio i gynorthwyo gyda gwasanaethau atgyweirio a gwella'r Cyngor.
 
Daw'r rhodd hon yn ychwanegol at 10 pecyn cymorth wedi'u teilwra'n unigol a gafodd eu darparu i brentisiaid y llynedd gan Robert Price, partner cyflenwi un ffynhonnell y Cyngor.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Yn ogystal â darparu cyfleoedd amhrisiadwy i gael profiad yn y gwaith, mae prentisiaethau yn ein helpu ni i sicrhau bod y cyfoeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd gennym ni yng Nghartrefi Caerffili yn cael eu cadw.
 
"Hoffwn i groesawu ein prentisiaid newydd i Dîm Caerffili a dymuno'r gorau iddyn nhw yn eu rolau newydd. Diolch i Robert Price am eu rhoddion hael i gynorthwyo'r prentisiaid wrth iddyn nhw gychwyn ar eu teithiau gyrfa."

Ychwanegodd David Patterson, Cyfarwyddwr Gwerthu yn Robert Price, “Mae’n wych cael y cyfle i gynorthwyo newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant adeiladu. Mae'r rhodd hon yn cynorthwyo ein strategaeth hyfforddiant ar gyfer ein staff a'n cwsmeriaid, i gynorthwyo prentisiaid newydd yn y diwydiant yn gyffrous ac yn rhoi boddhad. Mae ein partneriaeth hirdymor gyda Chyngor Caerffili wedi ein galluogi ni i gynorthwyo amrywiaeth o fentrau o’r fath ac mae’n wych gweld y prentisiaid hyn ar ddechrau eu taith. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yn ein canghennau am flynyddoedd i ddod, gan eich cefnogi chi gydag anghenion deunyddiau, cyngor ac arweiniad.”



 


Ymholiadau'r Cyfryngau