Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2023
Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig croeso cynnes
News Centre
Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig croeso cynnes
Postiwyd ar : 14 Rhag 2023
Mae lleoliadau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig croeso cynnes y gaeaf hwn i unrhyw un y mae biliau ynni cynyddol a’r argyfwng costau byw yn effeithio arnyn nhw.
Mae’r ‘Mannau Croesawgar’ wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a grwpiau yn y sector cymunedol a gwirfoddol.
Gall pob Man Croesawgar edrych yn wahanol, gyda rhai yn dewis cynnig gweithgareddau, cymorth neu hyd yn oed fwyd poeth a diod. Mae lleoliadau yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, neuaddau eglwysi a chlybiau chwaraeon. Mae Mannau Croesawgar ar gael i'w defnyddio am ddim ac mae croeso cynnes i bawb.
Gallwch chi ddod o hyd i restr lawn ar-lein, drwy wefan y Cyngor:
Caerffili - Bwrdeistref Sirol Caerffili
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau, “Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar gymaint o fywydau. Rydyn ni'n falch o weithio gyda chymunedau lleol i gynnig mannau croesawgar eto eleni, fel un o’r ffyrdd rydyn ni'n gweithio i gynorthwyo trigolion yn ystod y cyfnod heriol hwn. Gall misoedd y gaeaf fod yn gyfnod arbennig o anodd; mae mannau croesawgar yn cynnig cysur a chynhesrwydd i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi, yn ogystal â chwmni i'r rhai a allai fod yn teimlo'n ynysig neu'n unig.”
I gael rhagor o wybodaeth am fannau croesawgar y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys gwybodaeth i grwpiau cymunedol ar ymuno â’r rhwydwaith, cysylltwch â thîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor drwy e-bostio
GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
neu ffonio 01443 811490
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y