News Centre

Cabinet yn cadarnhau'r ffyrdd a fydd yn eithriedig o'r terfynau cyflymder cenedlaethol diofyn o 20mya sydd ar ddod

Postiwyd ar : 01 Awst 2023

Cabinet yn cadarnhau'r ffyrdd a fydd yn eithriedig o'r terfynau cyflymder cenedlaethol diofyn o 20mya sydd ar ddod

Yn ddiweddar, mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo'r ffyrdd a fydd yn ‘eithriadau’ i’r ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n lleihau’r terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig.

Bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym ledled Cymru ar 17 Medi 2023. O’r dyddiad hwnnw, y cyflymder uchaf cyfreithlon ar ffyrdd cyfyngedig fydd 20mya.

Ar rai ffyrdd, ni fyddai terfyn cyflymder o 20mya yn briodol. Bydd y ffyrdd hyn yn cael eu hadnabod fel eithriadau, a bydd y terfyn cyflymder o 30mya yn parhau.

Bydd y rhan fwyaf o'r ffyrdd sydd wedi'u nodi fel eithriadau yn parhau fel hynny yn ôl y bwriad, ar wahân i bedwar cynnig, ar ôl ystyried gwrthwynebiadau a gafodd eu cyflwyno gan gynghorwyr ward a thrigolion yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Yng Nghoed Duon, bydd y ffordd ddynesu at y gylchfan lle mae Highfields Way yn cwrdd â Bryn Road yn cael ei lleihau i 20mya.

Ym Maes-y-cwmwr, bydd y cyfyngiad ar yr A472 y tu allan i Ysgol Ddawns Shappelles yn cael ei ostwng i 20mya oherwydd “llif traffig sylweddol a phryderon ynghylch gwelededd i gerddwyr a beicwyr” ar yr A469 gyfagos.

Yn Nhretomos, bydd 'clustogfa' 30mya arfaethedig ar yr A468 ger Clos Pantglas yn cael ei leihau ychydig ar ôl i drigolion godi pryderon am ddiogelwch plant sy’n chwarae mewn parc cyfagos.

Yn Ystrad Mynach, cytunodd y Cyngor i roi terfyn cyflymder 20mya ar waith ar ddarn o'r A472 Caerphilly Road o amgylch Cylchfan Tredomen ar ôl gwrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Gelligaer a nifer o'r trigolion.
Bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno gostyngiadau i'r terfynau cyflymder 40mya ar bedwar darn o ffordd; yr A469 rhwng Bargod a Brithdir, yr A4048 i'r gogledd o Lwyncelyn, y B4254 rhwng Gelligaer a Nelson, a'r A472 rhwng Nelson a Thredomen.

Bydd yr Heddlu a GoSafe yn parhau i orfodi 20mya, fel unrhyw derfyn cyflymder arall, i wneud ein ffyrdd ni'n fwy diogel i'r holl ddefnyddwyr. Byddan nhw hefyd yn helpu i ymgysylltu â modurwyr a'u haddysgu i sicrhau bod y terfynau cyflymder newydd yn cael eu parchu, a bod newid ymddygiad gyrwyr yn cael ei ysgogi.

Mae rhagor o wybodaeth am y terfynau cyflymder 20mya ar gael ar ein gwefan ni. 

 



Ymholiadau'r Cyfryngau