Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Casgliad bin wedi'i golli
Prydau ysgolion cynradd
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Awst 2023
Mae'r Tour of Britain yn dychwelyd i’r Fwrdeistref Sirol ddydd Sul 10 Medi.
News Centre
Mae'r Tour of Britain yn dychwelyd i’r Fwrdeistref Sirol ddydd Sul 10 Medi.
Postiwyd ar : 22 Awst 2023
Mae'r Tour of Britain yn dychwelyd i’r Fwrdeistref Sirol ddydd Sul 10 Medi.
Bydd y digwyddiad chwaraeon o safon fyd-eang yn dod i ben yng nghanol tref Caerffili yn dilyn 8 cam dwys o rasio ledled y Deyrnas Unedig. Gyda'r cyffro'n cael ei ddarlledu ar deledu byw (ITV4) - bydd y digwyddiad yn arddangos Caerffili ar lwyfan y byd wrth i'r beicwyr ddod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol drwy Nelson, pasio trwy Lanbradach a chwblhau dwy lap o fynydd Caerffili cyn croesi'r llinell derfyn o flaen y castell eiconig.
Dyma'r manylion llawn (gan gynnwys manylion am gau ffyrdd) i alluogi trigolion i gynllunio ymlaen llaw.
Bydd beicwyr yn dod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol ar hyd yr A4054, yn mynd i'r dde ar y gylchfan i ymuno â'r A472 (Heol Pontypridd) tuag at Nelson.
Amserau yn fras:
Beicwyr yn dod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol ar hyd yr A4054, Nelson
- car arwain yn cyrraedd tua
14:26
. Beicwyr yn cyrraedd tua
14:41
.
Beicwyr yn pasio trwy Lanbradach
- car arwain yn cyrraedd
14:39
. Beicwyr yn cyrraedd tua
14:54.
Beicwyr yn pasio cylchfan Pwll-y-pant
- car arwain yn cyrraedd
14:44
. Beicwyr yn cyrraedd tua
14:59
.
Mae'r system cau ffyrdd dreigl yn dod i ben yn y man cyfarfod rhwng Heol Pontygwindy a chyffordd Castle Street.
Bydd angen cau’r ffyrdd am gyfnod hirach yng nghanol tref Caerffili a'r ardal gyfagos er mwyn hwyluso'r lapiau ychwanegol o fynydd Caerffili ac i hwyluso'r llinell derfyn a’r nenbont. Bydd hon wedi'i lleoli ar Cardiff Road ger maes parcio'r Twyn.
Cau ffyrdd dros dro canol dref Caerffili (dydd Sul 10 Medi):
Cardiff Road: 04:45 – 20:00
Castle Street: 14:00 – 17:00
Nantgarw Road: 14:00 – 16:00*
Crescent Road – Park Lane: 14:30 – 16:45*
Mountain Road – Heol Cae Barrau: 14:00 – 15:30*
*Yn dibynnu ar amser gorffen y ras*
Yn ogystal, caiff traffig unffordd fynd ar hyd Bartlett Street, Caerffili, i gyfeiriad y dwyrain rhwng Cardiff Road a White Street rhwng 04:00 a 20:00.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd trigolion yn cael gwybod am yr aflonyddwch posibl drwy ein brif sianeli cyfathrebu megis y cyfryngau cymdeithasol a'n system darparu e-byst. Bydd trefnwyr y digwyddiad hefyd yn dosbarthu taflenni gan gynnwys y dogfennau sydd ynghlwm i roi gwybodaeth am y ffyrdd a fydd yn cael eu heffeithio a’r amserau.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cymorth ar gael i aelwydydd Caerffili i wella effeithlonrwydd ynni
Cyngor Caerffili yn dathlu 10 mlynedd ers iddi ddod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i arddangos Sgoriau Hylendid Bwyd yng Nghymru
Parc sglefrio newydd yn cael ei ddatgelu ym Maes-y-cwmwr
Disgyblion Ysgol Gynradd Penllwyn yn plannu gwreiddiau i lwyddo
Digwyddiadau: Digwyddiadau'r Nadolig 2023
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y