News Centre

Terry's Patisserie: gwneuthurwr bwyd lleol arobryn yn cael cymorth gan Lywodraeth y DU a Chyngor Caerffili

Postiwyd ar : 31 Awst 2023

Terry's Patisserie: gwneuthurwr bwyd lleol arobryn yn cael cymorth gan Lywodraeth y DU a Chyngor Caerffili
Mae Terry's Patisserie yn fusnes gweithgynhyrchu bwyd arbenigol arobryn, sy'n darparu teisennau wedi'u gwneud â llaw i westai, bwytai, stadia, a lleoliadau ledled y Deyrnas Unedig yn ogystal â'r gymuned leol.

Cafodd y cwmni ei ddechrau pan wnaeth Terry Williams ddarganfod ei hangerdd am deisennau o safon a dechrau gweithredu o gartref y teulu yn nhref Coed Duon, cyn symud i safle mwy ym Mharc Busnes Euro, Aberbargod, a sefydlu'r cwmni o dan yr enw Terry's Patisserie Ltd yn 2011.

Mae'r cwmni bellach yn cyflogi 14 o bobl, gan gynnwys cogyddion medrus iawn o bedwar ban y byd, yn ogystal â recriwtio talent leol. Mae Terry's Patisserie wedi cynnal gwersi gyda Choleg Crosskeys, gan alluogi'r cwmni i weithio gyda myfyrwyr a dod o hyd i ddarpar brentisiaid. Mae'r cwmni hefyd yn gweithio gyda Hyfforddiant Cambrian i uwchsgilio recriwtiaid i'r lefel sy'n ofynnol i lwyddo yn y rolau.

Ledled y Deyrnas Unedig, mae Terry's Patisserie wedi gweithio gyda chleientiaid fel Sioe Flodau'r RHS yn Chelsea, rasys Ascot, yn ogystal â nifer o glybiau pêl-droed, gwestai a lleoliadau nodedig, gan gynrychioli rhai o ddigwyddiadau lletygarwch eiconig Prydain. Mae'r cwmni'n parhau i ddarparu cynhyrchion i fusnesau lleol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili hefyd, gan gynnwys The New Continental Café, Bargod, a Maenordy Llancaiach Fawr.

Mae Terry's Patisserie yn aml yn cael ymholiadau ynghylch a oes siop. O ran hyn, meddai Rhys Williams, Cyfarwyddwr, a mab Terry, “Nid oes gennym ni siop ffisegol, gan nad ydyn ni am gystadlu â busnesau lleol, rydyn ni am weithio gyda nhw.” Fodd bynnag, i fodloni'r galw, mae'r cwmni'n datblygu model ‘clicio a chasglu’, lle bydd cwsmeriaid yn gallu archebu cynhyrchion a'u casglu nhw o'r busnesau sy'n cymryd rhan.

“Rydyn ni'n annog pobl i ddefnyddio busnesau lleol ac efallai hyd yn oed ddarganfod lleoedd nad oedden nhw'n sylweddoli eu bod nhw'n bodoli, a'r cyfan wrth feithrin ein brand a hyrwyddo ein henw ni.”

Yn 2022, cysylltodd Terry's Patisserie â Thîm Menter Fusnes ac Adnewyddu y Cyngor ynghylch cael grant i brynu offer arbenigol newydd ar gyfer gwneud teisennau. Cafodd y cwmni £25,000 (cyfalaf gwerth £22,000 a refeniw gwerth £3,000) gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant hwn 50% o arian cyfatebol gan Terry's Patisserie a'i roi i'r cwmni drwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'r offer a gafodd eu prynu gan ddefnyddio'r arian grant hwn wedi galluogi'r cwmni i gynyddu cynhyrchiant y busnes, ennill achrediad Cymeradwyaeth Cyflenwr Diogel a Lleol (SALSA) a chael system feddalwedd NOUVEM.

Meddai Rhys Williams, “Roedd hi'n broses syml iawn, ac roedd hi'n wych gallu ffonio rhywun yn rhwydd. Ac mae'r ffaith bod y tîm wedi bod yn hyblyg er mwyn gweddu i'r busnes yn wych.”

O ran y dyfodol, nod Terry's Patisserie yw sefydlu'r gwasanaeth ‘clicio a chasglu’ a chryfhau'r busnes cyfanwerthu yn Llundain. Mae hefyd uchelgeisiau i sefydlu academi grystau yn yr ardal leol ar gyfer darpar gogyddion.

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Roedd hi'n wych cael ymweld â Terry's Patisserie i edrych o gwmpas y safle a siarad â'r gweithlu. Roedd awyrgylch cyfeillgar, a braf oedd clywed yr uchelgeisiau sydd gan y cwmni yn dilyn cael y cymorth ariannol.”

Am ragor o wybodaeth am Terry's Patisserie, ewch i'r wefan

Neu ddod o hyd i Terry's Patisserie ar y cyfryngau cymdeithasol:

Facebook
Twitter
Instagram
LinkedIn

Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF
E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau