News Centre

Myfyrwyr yng Nghaerffili yn Dathlu Diwrnod Canlyniadau TGAU 2023

Postiwyd ar : 25 Awst 2023

Myfyrwyr yng Nghaerffili yn Dathlu Diwrnod Canlyniadau TGAU 2023
Mae ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu diwrnod canlyniadau arholiadau TGAU heddiw. Mae disgyblion o ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn darganfod eu canlyniadau ac yn dechrau cynllunio'u camau nesaf.

I nodi’r achlysur, mae pobl ifanc ledled y Fwrdeistref Sirol wedi bod yn dychwelyd i'w hysgolion i ddathlu a myfyrio ar eu cyflawniadau gydag athrawon a staff, a chael gwybod sut wnaethon nhw berfformio yn yr arholiadau carreg filltir pwysig hyn.

Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, "Da iawn a llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion sydd wedi casglu'u canlyniadau TGAU y bore 'ma."

"Hoffwn i ymestyn fy nymuniadau gorau i chi wrth symud ymlaen, p'un a hoffech chi barhau mewn addysg a chael cymwysterau Safon Uwch, neu ystyried prentisiaethau posibl ac opsiynau gyrfa."

"Am y tro, mwynhewch eich dathliadau a gwyliau'r haf gyda'ch anwyliaid."

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gyfer y rhai sy’n derbyn canlyniadau, gan gynnwys mynd ymlaen i addysg bellach naill ai yn y chweched dosbarth neu mewn sawl coleg yn y Fwrdeistref Sirol. Mae hefyd gan ddisgyblion yr opsiwn i chwilio am brentisiaethau neu gyfleoedd cyflogaeth.

Meddai Keri Cole, Prif Swyddog Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Byddai dweud bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i athrawon, rhieni a gwarcheidwaid, a phawb sy'n gweithio mewn addysg yn dweud rhy ychydig. Ond er gwaethaf yr heriau rydyn ni i gyd yn gweithio i'w goresgyn yn ddyddiol - mae hwn wedi bod yn ddiwrnod canlyniadau llwyddiannus arall i'n Bwrdeistref Sirol.”

"Rwy'n gwybod y bydd heddiw yn ddiwrnod balch i bob disgybl, waeth beth fo'r canlyniad, a bydd cymunedau ein hysgolion gwych yn cynorthwyo dysgwyr yn eu camau nesaf.”

"Mae gweld ymrwymiad ac ymroddiad staff a myfyrwyr yn ystod y flwyddyn hon wedi bod yn ysbrydoledig ac mae’n dangos yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn rhan o ‘Dîm Caerffili’ – da iawn, bawb.”

Wrth i fyfyrwyr ddathlu eu llwyddiannau nhw, ymunwch â'n sianeli cyfryngau cymdeithasol wrth i ni barhau i rannu straeon y rhai sy'n dathlu.


Ymholiadau'r Cyfryngau