News Centre

Gŵyl y Caws Bach Caerffili yn llwyddiant ysgubol am yr ail flwyddyn

Postiwyd ar : 11 Medi 2023

Gŵyl y Caws Bach Caerffili yn llwyddiant ysgubol am yr ail flwyddyn
Cafodd Gŵyl y Caws Bach ei chynnal am yr ail flwyddyn dros benwythnos 2 a 3 Medi. Fe wnaeth Canol Tref Caerffili gofnodi nifer anhygoel o 17,737 o ymwelwyr,  dros 7,000 yn fwy o bobl na'r llynedd. Hefyd, cafodd dros 38,000 o ymwelwyr eu cofnodi yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell, ac fe wnaeth y digwyddiad dros y penwythnos gofnodi dros 13,000 yn fwy o bobl yn y dref na’r penwythnos blaenorol.

Roedd dros 150 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn bresennol, yn ogystal â’r holl fusnesau lleol ar y Stryd Fawr a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell.

Daeth y Caws Bach â chyfleoedd i fusnesau bach a lleol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili gael eu cydnabod am eu talentau a’u perfformiadau rhagorol, a gafodd eu mwynhau yn fawr gan ymwelwyr.

Dyma’r oedd gan fusnesau lleol i’w ddweud am y digwyddiad:

Dywedodd Sarah a Gareth o Crafty Legs Events, “Waw, am ddigwyddiad i fod yn rhan ohono. Roedden ni wrth ein boddau gyda phob munud ohono, roedd gweld cymaint o bobl yn mwynhau ein tref ni a chefnogi cymaint o fusnesau bach lleol yn anhygoel. Rydyn ni'n teimlo mor falch o fod yn rhan o ddau ddiwrnod mor anhygoel. Edrych ymlaen at ddigwyddiadau’r Nadolig!”

Meddai Christopher Hall, Marchnad Crefftwyr Caerffili “Efallai mai’r Caws Bach oedd hi’n cael ei galw, ond doedd dim byd bach am yr ŵyl eleni. Roedd hi'n wych, roedd Caerffili yn disgleirio. Roedd cymaint o wynebau hapus, llawer o chwerthin, dawnsio yn y Stryd Fawr. Roedd hi'n anhygoel, roedd yr holl fusnesau bach a ymunodd â ni ym Marchnad Artisan Caerffili wedi'u syfrdanu. Penwythnos perffaith, mewn tref brydferth. Da iawn i bawb a gymerodd rhan a diolch.”

Meddai Susan Fiander-Woodhouse o Gwmni Cheddar Blaenafon “Roedd yr ŵyl yn ddiwrnod mor dda, gyda thywydd gwell na’r disgwyl. Er bod ein stoc ni wedi'i gynllunio'n ofalus, fe wnaethon ni werthu popeth! Roedd yn benwythnos wirioneddol anhygoel.”

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Daeth pobl allan yn eu miloedd ar gyfer Gŵyl y Caws Bach eleni, ac roedd yn wych gweld y strydoedd yn llawn bywyd. Mae masnachwyr wedi gosod y digwyddiad hwn fel digwyddiad gorau'r flwyddyn, o ran gwerthu, felly mae cynnal y digwyddiad yn agosach at ganol y dref yn bendant yn helpu. Mae adborth gan drigolion wedi bod yn canmol atyniadau hwyliog sydd wedi cael eu hychwanegu eleni. Awyrgylch ystyriol o deuluoedd a cherddoriaeth wych!”


Ymholiadau'r Cyfryngau