Neges cydymdeimlad gan Arweinydd y Cyngor I Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Philip
Postiwyd ar : 09 Ebr 2021
Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf at Ei Mawrhydi, y Frenhines, a’r Teulu Brenhinol yn dilyn marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol, y Dug Caeredin.
Bydd hyn yn golled enfawr i'n cenedl. Ei wasanaeth ymroddedig i'r Teulu Brenhinol a'i ymrwymiad i wasanaethu'r wlad fel rhan o'i yrfa yn y Llynges, lle helpodd ei wasanaeth gweithredol yn ystod yr ail ryfel byd i lunio'r byd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn ystod ei oes mae wedi cyflawni mwy na 20,000 o ymrwymiadau cyhoeddus. Fe wnaeth ei bryder am bobl ifanc ei ysbrydoli i greu Cynllun Gwobr Dug Caeredin, a chefnogodd fwy nag 800 o elusennau ac achosion da - gan ganolbwyntio ar ei ddiddordebau mewn cadwraeth bywyd gwyllt, technoleg a chwaraeon.
Ar y diwrnod trist hwn, byddwn ni’n myfyrio ar fywyd Dug Caeredin a'i etifeddiaeth sylweddol a pharhaol yn y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad.
Hoffem eich gwahodd i adael neges yn ein llyfr cydymdeimlad digidol isod.