FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Pwyllgor Craffu yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Craffu yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Y Cynghorydd Tudor Davies.

'Eleni (2022/23) bydd y Pwyllgor Craffu yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cymryd rhan yng nghraffu’r canlynol:

  • Craffu cyn gwneud penderfyniad - ymgynghoriad cyn i benderfyniadau gael eu gwneud gan y Cabinet
  • Ymgynghori ar ddatblygu gwasanaeth a pholisi
  • Monitro cyllideb
  • Rheoli Perfformiad – Amcanion Gwella, Hunan-werthusiad y Cyngor a Chynlluniau Gwella Gwasanaeth

Yn ogystal â hynny bydd y pwyllgor craffu yn derbyn copïau o unrhyw adroddiadau perthnasol gan yr Ombwdsmon ac adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru. 

Hefyd bydd y flaenraglen waith yn cynnwys ceisiadau sydd wedi eu derbyn gan Gynghorwyr a’r cyhoedd ac unrhyw Alwadau am Gamau Gweithredu gan Gynghorwyr. 

Bydd y Flaenraglen Waith yn cynnwys unrhyw ‘Grwpiau Tasg a Gorffen’ sydd wedi’u creu gan y pwyllgor craffu, i gynnal unrhyw ymchwiliad manwl i destun penodol neu faes gwasanaeth.

Gobeithiaf y bydd y Flaenraglen Waith hon yn addysgiadol a byddwn yn croesawu unrhyw adborth’.

Y Flaenraglen Waith Gyfredol

Mae’r flaenraglen waith ganlynol yn amlinellu’r rhaglen waith gyfredol a bydd yn cael ei diweddaru yn chwarterol yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y drafft o Flaenraglen Waith y chwarter nesaf. 

Blaenraglen Waith (PDF)

Cyfarfodydd y pwyllgor craffu

Mae holl bapurau cyfarfod y pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi 3 diwrnod gwaith clir cyn dyddiad y cyfarfod, ac maen nhw ar gael drwy glicio’r ddolen ganlynol:

Gweld cyfarfodydd y cyngor yn y dyfodol
Cysylltwch â ni