Cymorth ariannol sydd ar gael yn ystod coronafeirws
Cymorth ariannol sydd ar gael yn ystod coronafeirws
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi amrywiaeth o ddulliau cymorth ychwanegol ar waith i helpu gweithwyr a hawlwyr budd-daliadau sy'n cael eu heffeithio gan coronafeirws.
Mae trefniadau arbennig yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer pobl sy'n gweithio neu sy'n derbyn budd-daliadau ac sydd angen aros gartref (hunanynysu) neu sydd wedi'u heintio gan coronafeirws.
Mae cyngor manwl ar gael ar y dolenni canlynol:
Os hoffech chi siarad â rhywun yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o ran cael rhagor o gyngor neu gymorth, ffoniwch 01443 866534.
Rheoli’ch arian
Mae cychwyniad y coronafeirws wedi golygu cyfnod dirdynnol iawn i nifer o deuluoedd, oherwydd er mai prif natur yr argyfwng hwn yw iechyd, mae hefyd yn argyfwng ariannol. Ewch i’n tudalen Rheoli’ch arian ar gyfer awgrymiadau a gwybodaeth ar ddyled, cyllidebu, arbed arian ar filiau ynni, a mwy.
Covid-19 – Cyngor a chymorth i ddisgyblion a phobl ifanc
Yn ystod y cyfnod eithriadol hwn, mae gwasanaethau cwnsela ysgolion wrthi'n sicrhau bod iechyd meddwl disgyblion yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Isod, mae nifer o adnoddau a fydd, gobeithio, o ddefnydd i athrawon, rhieni a myfyrwyr.
I gael gafael ar adnoddau, ewch i'r dudalen Covid-19 – Cyngor a chymorth i ddisgyblion a phobl ifanc