Cymorth ac Arweiniad Iechyd
Mae byw mewn ardal Dechrau’n Deg yn golygu bod grwpiau a rhaglenni iechyd ar gael i’ch plentyn a’ch teulu. Mae’r bydwragedd, ymwelwyr iechyd a’r nyrsys meithrin cymunedol yn gweithio fel rhan o dîm i gynnig cymorth ac arweiniad drwy feichiogrwydd a blynyddoedd cyntaf bywyd eich plentyn.
Mae’r tîm iechyd yn cynnwys:
- Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg, sy’n cynnig rhaglenni a chymorth iechyd yn ychwanegol i’r Rhaglen Iechyd Plant Gyffredinol. Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yng Nghaerffili yn gweithio gyda llai o deuluoedd na’r Ymwelwyr Iechyd cyffredinol, ac felly bydd ganddynt fwy o amser i’w dreulio gyda’ch teulu ac yn gallu cynnig llawer mwy o gefnogaeth i chi.
- • Tîm Iechyd Allgymorth, sy’n cynnig cymorth un-i-un yn y cartref ac sydd hefyd yn helpu i gyflwyno sesiynau iechyd Dechrau’n Deg.
Mae Tîm Iechyd Dechrau’n Deg Caerffili yn cynnig cymorth 1:1 yn y cartref a sesiynau yn y gymuned leol gan ddarparu cymorth ac arweiniad mewn sawl ffordd, er enghraifft:
- Cymorth cyn-geni – cadw eich hun yn iach yn ystod beichiogrwydd, gwybodaeth am offer a allai fod o ddefnydd i chi, cymorth yn y dyddiau cyntaf.
- Cynlluniau Cychwyn Iach – ffeindiwch allan os oes gennych hawl i gael talebau Cychwyn Iach ar gyfer ffrwythau a llysiau ffres a fitaminau
- Cyngor ar fwydo o’r fron – cyngor a chymorth gyda materion bwydo o’r fron, eich helpu i fwydo’ch baban yn iawn.
- Diddyfnu (5 mis – blwydd) – maint y ddogn, bwydydd diddyfnu cyntaf, bwyd y teulu a sut i ddatblygu maeth eich plentyn.
- Cymorth gyda diogelwch yn y cartref yn ogystal ag offer (5 mis – blwydd) – rhestrau gwirio diogelwch yn y cartref, pecynnau offer diogelwch yn y cartref am ddim sy’n addas i’r oedran a chamau datblygiad.
- Clybiau babanod (0-9 mis oed) – tylino babanod, diddyfnu, cymorth cyntaf a llawer o gefnogaeth i famau a thadau newydd
- Cymorth ymddygiad – cymorth un-i-un neu mewn grwpiau i’ch helpu chi i fagu eich plentyn mewn modd positif
- ‘Chatterbox’ (grŵp iaith a lleferydd i blant 2-3 oed) – caiff teuluoedd sydd â phryderon am ddatblygiad iaith eu plentyn eu cyfeirio at y grŵp hwn. Drwy weithio’n fwy dwys, gall y staff roi awgrymiadau i chi gefnogi lleferydd eich plentyn.
- ‘Top Tots’ (grŵp cerddoriaeth a symud i blant 2-3 oed) – sesiynau gweithgaredd corfforol i chi a’ch plentyn.
- ‘Get Cooking’ - sesiynau ryseitiau a choginio bwyd i’r teulu.
- ‘Henry’ (Ymarfer Corff a Maeth Iach i’r Ifanc Iawn) – cwrs maeth ac ymarfer corff i rieni sydd am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y bwydydd a’r ymarferion corff gorau ar gyfer datblygiad eu plant.
Os hoffech fynd i unrhyw un o’n grwpiau iechyd, ffoniwch Dîm Iechyd Dechrau’n Deg ar 02920 886860.