Ailagor tafarndai, bariau, caffis a bwytai
Postiwyd ar : 10 Gor 2020
Ailagor tafarndai, bariau, caffis a bwytai o ddydd Llun 13 Gorffennaf 2020.
Caniateir i dafarndai, bariau, caffis a bwytai sydd â Thrwyddedau Safle, gyda’u hardaloedd awyr agored eu hunain, agor o ddydd Llun 13 Gorffennaf 2020 er mwyn gwerthu alcohol mewn ardaloedd awyr agored i eistedd ynddynt yn unig.
Bydd ailagor yn ddarostyngedig i reolaethau neu ganllawiau eraill. Mae'n ofynnol i adeiladau trwyddedig ddarparu systemau gwaith diogel i staff ac aelodau'r cyhoedd.
Heddiw, rydym wedi derbyn arweiniad gan Lywodraeth Cymru
https://llyw.cymru/busnesau-twristiaeth-lletygarwch-canllawiau-i-ailagor-yn-raddol-html
Yn y canllaw hwn, mae'n ofynnol i chi gymryd manylion ar gyfer olrhain cysylltiadau. Os oes gennych bryderon ynghylch cymryd manylion gan gwsmeriaid ar gyfer olrhain cysylltiadau, cyhoeddwyd canllawiau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
https://ico.org.uk/global/data-protection-and-coronavirus-information-hub/coronavirus-recovery-data-protection-advice-for-organisations/collecting-customer-and-visitor-details-for-contact-tracing/
Mae canllawiau UK Hospitality yn darparu cyngor mewn perthynas â chynnal Asesiadau Risg cyn ailagor. Mae hwn ar gael yma: https://www.ukhospitality.org.uk/page/WalesGuidance
Mae gwybodaeth mewn perthynas â darparu toiledau ar gael yma: https://llyw.cymru/darparu-toiledau-mwy-diogel-ir-cyhoedd-coronafeirws
Dylai adeiladau clwb, h.y. clybiau rygbi, pêl-droed, criced a chlybiau cymdeithasol/gweithwyr geisio cyngor mewn perthynas â'u hadeiladau eu hunain gan yr Adran Drwyddedu ynghylch a fyddant yn gallu agor.
Gellir cysylltu â'r Tîm Trwyddedu ar trwyddedu@caerffili.gov.uk